bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Leviticus 18
Leviticus 18
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 19 →
1
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Dywed wrth bobl Israel, 'Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
3
Nid ydych i wneud fel y gwneir yng ngwlad yr Aifft, lle buoch yn byw, nac fel y gwneir yng ngwlad Canaan, lle'r wyf yn mynd chwi. Peidiwch dilyn eu harferion.
4
Yr ydych i ufuddhau i'm cyfreithiau ac i gadw fy neddfau; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
5
Cadwch fy neddfau a'm cyfreithiau, oherwydd y mae'r sawl sy'n eu cadw yn byw trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.
6
"'Nid yw unrhyw un i ddynesu at berthynas agos iddo i gael cyfathrach rywiol. Myfi yw'r ARGLWYDD.
7
"'Nid wyt i amharchu dy dad trwy gael cyfathrach rywiol 'th fam; dy fam yw hi, ac nid wyt i gael cyfathrach hi.
8
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gwraig dy dad; byddai hynny'n amharchu dy dad.
9
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol 'th chwaer, boed yn ferch i'th dad neu'n ferch i'th fam, ac wedi ei geni yn y cartref neu'r tu allan iddo.
10
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol merch dy fab neu ferch dy ferch; byddai hynny'n dy amharchu.
11
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol merch i wraig dy dad sydd wedi ei geni i'th dad; y mae'n chwaer iti, ac nid wyt i gael cyfathrach hi.
12
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol chwaer dy dad; y mae'n berthynas agos i'th dad.
13
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol chwaer dy fam, gan ei bod yn berthynas agos i'th fam.
14
"'Nid wyt i amharchu brawd dy dad trwy ddynesu at ei wraig; y mae'n fodryb iti.
15
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol 'th ferch-yng-nghyfraith; y mae'n wraig i'th fab, ac nid wyt i gael cyfathrach hi.
16
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gwraig dy frawd; byddai hynny'n amharchu dy frawd.
17
"'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gwraig ac 'i merch, nac ychwaith merch ei mab na merch ei merch; y maent yn perthyn yn agos iddi, a byddai hynny'n anlladrwydd.
18
"'Nid wyt i briodi chwaer dy wraig rhag iddi gystadlu hi, na chael cyfathrach hi tra bo dy wraig yn fyw.
19
"'Nid wyt i ddynesu at wraig i gael cyfathrach rywiol hi yn ystod aflendid ei misglwyf.
20
"'Nid wyt i orwedd mewn cyfathrach gyda gwraig dy gymydog, i'th wneud dy hun yn aflan gyda hi.
21
"'Nid wyt i roi yr un o'th blant i'w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
22
"'Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig; y mae hynny'n ffieidd-dra.
23
"'Nid wyt i orwedd gydag unrhyw anifail, i'th wneud dy hun yn aflan, ac nid yw unrhyw wraig i'w rhoi ei hun mewn cyfathrach ag anifail; y mae hynny'n wyrni.
24
"'Peidiwch 'ch halogi eich hunain 'r un o'r pethau hyn, oherwydd trwy'r rhain y bu'r cenhedloedd yr wyf yn eu gyrru allan o'ch blaenau yn eu halogi eu hunain.
25
Halogwyd y tir, ac fe'i cosbais am ei ddrygioni, ac fe chwydodd y tir ei drigolion.
26
Ond cadwch chwi fy neddfau a'm cyfreithiau, a pheidiwch gwneud yr un o'r pethau ffiaidd hyn, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych;
27
oherwydd gwnaeth y bobl oedd yn y wlad o'ch blaen chwi yr holl bethau ffiaidd hyn, a halogwyd y tir.
28
Os byddwch chwi'n halogi'r tir, bydd yn eich chwydu chwithau fel y chwydodd y cenhedloedd oedd o'ch blaen chwi.
29
Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd hyn, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
30
Cadwch fy ngofynion, a pheidiwch dilyn yr arferion ffiaidd a wnaed o'ch blaen, na chael eich halogi ganddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27