bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Leviticus 8
Leviticus 8
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 9 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Cymer Aaron a'i feibion, a hefyd y dillad, yr olew eneinio, bustach yr aberth dros bechod, y ddau hwrdd a'r fasgedaid o fara croyw,
3
a chasgl yr holl gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod."
4
Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac ymgasglodd y gynulleidfa wrth ddrws pabell y cyfarfod.
5
Dywedodd Moses wrth y gynulleidfa yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneud.
6
Yna gwnaeth i Aaron a'i feibion ddod ymlaen, a golchodd hwy du373?r.
7
Rhoddodd y wisg am Aaron, clymu'r gwregys am ei ganol, ei wisgo 'r fantell a rhoi'r effod amdano; rhoes wregys cywrain yr effod amdano a'i gau.
8
Rhoddodd y ddwyfronneg amdano, a rhoi'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg.
9
Yna rhoddodd dwrban ar ben Aaron, a gosod arno'r dorch aur, y goron sanctaidd, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
10
Yna cymerodd Moses yr olew eneinio, ac eneiniodd y babell a phopeth ynddi, a thrwy hynny eu cysegru.
11
Taenellodd beth o'r olew seithwaith ar yr allor, ac eneiniodd yr allor a'i holl offer, y noe hefyd a'i gwaelod, i'w cysegru.
12
Tywalltodd beth o'r olew eneinio ar ben Aaron, ac eneiniodd ef i'w gysegru.
13
Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, rhoddodd wisgoedd amdanynt, clymu gwregysau am eu canol, a gwisgo capiau am eu pennau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
14
Yna daeth Moses bustach yr aberth dros bechod, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.
15
Lladdodd Moses y bustach a chymryd peth o'r gwaed a'i roi 'i fys ar y cyrn bob ochr i'r allor i'w chysegru; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor. Felly y cysegrodd hi, gan wneud cymod drosti.
16
Cymerodd Moses hefyd y braster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'r braster arnynt, a'u llosgi ar yr allor.
17
Ond llosgodd y bustach, ei groen, ei gnawd a'r gweddillion y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
18
Yna cyflwynodd hwrdd y poethoffrwm, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.
19
Lladdodd Moses yr hwrdd a lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.
20
Torrodd yr hwrdd yn ddarnau a llosgi'r pen, y darnau a'r braster.
21
Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau du373?r, a llosgodd yr hwrdd i gyd ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dn i'r ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
22
Yna cyflwynodd yr hwrdd arall, sef hwrdd yr ordeiniad, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.
23
Lladdodd Moses yr hwrdd a chymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.
24
Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, a rhoddodd beth o'r gwaed ar gwr isaf eu clustiau de, ar fodiau eu llaw dde ac ar fodiau eu troed de, a lluchiodd waed ar bob ochr i'r allor.
25
Cymerodd y braster, y gynffon fras, yr holl fraster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'u braster, a'r glun dde.
26
Yna o'r fasgedaid o'r bara croyw oedd gerbron yr ARGLWYDD cymerodd Moses deisen o fara croyw, ac un arall wedi ei chymysgu ag olew, ac un fisged, a'u gosod ar y braster ac ar y glun dde.
27
Rhoddodd y cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan.
28
Wedyn cymerodd Moses hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm yn offrwm ordeiniad, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dn i'r ARGLWYDD.
29
Cymerodd Moses hefyd y frest, sef ei ran ef o hwrdd yr ordeinio, a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
30
Yna cymerodd Moses beth o'r olew eneinio ac o'r gwaed oddi ar yr allor, a'u taenellu dros Aaron a'i ddillad, a thros ei feibion a'u dillad hefyd; felly y cysegrodd Aaron a'i ddillad, hefyd ei feibion a'u dillad.
31
Dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion, "Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod a'i fwyta yno gyda'r bara o fasged offrymau'r ordeinio, fel y gorchmynnais, a dweud mai Aaron a'i feibion oedd i'w fwyta.
32
Ond llosgwch yn y tn weddill y cig a'r bara.
33
Peidiwch symud o ddrws pabell y cyfarfod am saith diwrnod, nes cwblhau dyddiau eich ordeiniad, oherwydd bydd yr ordeinio yn ymestyn dros saith diwrnod.
34
Gwnaed yr hyn a ddigwyddodd heddiw i wneud cymod drosoch, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.
35
Yr ydych i aros wrth ddrws pabell y cyfarfod ddydd a nos am saith diwrnod, a chadw'r hyn a ofyn yr ARGLWYDD, rhag ichwi farw; oherwydd dyma a orchmynnwyd i mi."
36
Felly gwnaeth Aaron a'i feibion bopeth a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27