bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Leviticus 19
Leviticus 19
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 20 →
1
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Dywed wrth holl gynulleidfa pobl Israel, 'Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD eich Duw, yn sanctaidd.
3
Y mae pob un ohonoch i barchu ei fam a'i dad, ac yr ydych i gadw fy Sabothau. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
4
Peidiwch throi at eilunod na gwneud ichwi eich hunain ddelwau tawdd. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
5
"'Pan fyddwch yn cyflwyno hedd-offrwm i'r ARGLWYDD, offrymwch ef mewn ffordd a fydd yn dderbyniol.
6
Y mae i'w fwyta ar y diwrnod y byddwch yn ei offrymu, neu drannoeth; y mae unrhyw beth a fydd yn weddill ar y trydydd dydd i'w losgi yn y tn.
7
Os bwyteir rhywfaint ohono ar y trydydd dydd, y mae'n amhur ac ni fydd yn dderbyniol.
8
Y mae'r sawl sy'n ei fwyta yn gyfrifol am ei drosedd; oherwydd iddo halogi'r hyn sy'n sanctaidd i'r ARGLWYDD, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
9
"'Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, nid wyt i fedi at ymylon y maes na chasglu lloffion dy gynhaeaf.
10
Nid wyt i ddinoethi dy winllan yn llwyr na chasglu'r grawnwin a syrthiodd; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw.
11
"'Nid ydych i ladrata, na dweud celwydd, na thwyllo eich gilydd.
12
Nid ydych i dyngu'n dwyllodrus yn fy enw, a halogi enw eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
13
"'Nid wyt i wneud cam 'th gymydog na dwyn oddi arno. Nid wyt i ddal yn l hyd y bore gyflog dy weithiwr.
14
Nid wyt i felltithio'r byddar na rhoi rhwystr ar ffordd y dall; ond ofna dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
15
"'Nid wyt i wyro barn, na bod yn bleidiol tuag at y tlawd na dangos ffafriaeth at y mawr, ond yr wyt i farnu dy gymydog yn deg.
16
Nid wyt i fynd o amgylch yn enllibio ymysg dy bobl na pheryglu bywyd dy gymydog. Myfi yw'r ARGLWYDD.
17
"'Nid wyt i gasu dy frawd a'th chwaer yn dy galon, ond yr wyt i geryddu dy gymydog rhag iti fod yn gyfrifol am ei drosedd.
18
Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19
"'Yr ydych i gadw fy neddfau. Nid wyt i groesi anifeiliaid gwahanol, hau dy faes hadau gwahanol, na gwisgo dillad o ddeunydd cymysg.
20
"'Os bydd dyn yn gorwedd mewn cyfathrach gwraig, a hithau'n gaethferch wedi ei dyweddo i u373?r ond heb ei phrynu'n l na'i rhyddhau, bydd yn rhaid eu cosbi. Ond nid ydynt i'w rhoi i farwolaeth am nad oedd hi'n rhydd;
21
y mae ef i ddod ag offrwm dros ei gamwedd i'r ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, sef hwrdd yr aberth dros gamwedd.
22
Oherwydd y pechod a wnaeth, bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD hwrdd yr offrwm dros gamwedd; ac fe faddeuir iddo am y pechod a wnaeth.
23
"'Pan fyddwch yn mynd i mewn i'r wlad ac yn plannu unrhyw goeden ffrwythau, ystyriwch ei ffrwyth yn waharddedig; bydd wedi ei wahardd ichwi am dair blynedd, ac ni chewch ei fwyta.
24
Yn y bedwaredd flwyddyn bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd, yn offrwm mawl i'r ARGLWYDD.
25
Ond yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'i ffrwyth, er mwyn iddi ffrwythloni rhagor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
26
"'Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.
27
Nid ydych i dorri'r gwallt ar ochr eich pennau, na thorri ymylon eich barf.
28
Nid ydych i wneud toriadau i'ch cnawd er mwyn y meirw, nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw'r ARGLWYDD.
29
"'Paid halogi dy ferch trwy beri iddi buteinio, rhag i'r wlad buteinio a chael ei llenwi ag anlladrwydd.
30
"'Yr ydych i gadw fy Sabothau a pharchu fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD.
31
"'Peidiwch throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
32
"'Yr wyt i godi i'r oedrannus a pharchu'r hen, ac fe ofni dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
33
"'Pan fydd estron yn byw gyda thi yn dy wlad, nid wyt i'w gam-drin.
34
Y mae'r estron sy'n byw gyda thi i'w ystyried gennyt fel brodor o'ch plith; yr wyt i'w garu fel ti dy hun, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
35
"'Nid ydych i dwyllo wrth fesur, boed hyd, pwysau neu nifer.
36
Yr ydych i ddefnyddio cloriannau cywir, pwysau cywir, effa gywir a hin gywir. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch dygodd allan o wlad yr Aifft.
37
"'Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD.'"
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27