bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Leviticus 20
Leviticus 20
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 21 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd unrhyw un o bobl Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn Israel, yn rhoi un o'i blant i Moloch, rhodder ef i farwolaeth. Y mae pobl y wlad i'w labyddio cherrig.
3
Byddaf fi yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, oherwydd trwy roi ei blant i Moloch gwnaeth fy nghysegr yn aflan a halogi fy enw sanctaidd.
4
Os bydd pobl y wlad yn cau eu llygaid ar hwnnw pan fydd yn rhoi un o'i blant i Moloch, ac yn peidio 'i roi i farwolaeth,
5
byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw a'i deulu, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, a hefyd bawb sy'n ei ddilyn i buteinio ar l Moloch.
6
Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.
7
Ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
8
Yr ydych i gadw fy neddfau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eich sancteiddio.
9
"'Os bydd unrhyw un yn melltithio ei dad neu ei fam, y mae i'w roi i farwolaeth. Oherwydd iddo felltithio ei dad neu ei fam, y mae'n gyfrifol am ei waed ei hun.
10
"'Os bydd unrhyw un yn godinebu gyda gwraig ei gymydog, y mae'r godinebwr a'r odinebwraig i'w rhoi i farwolaeth.
11
Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad, y mae wedi amharchu ei dad; y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
12
Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth; gwnaethant wyrni, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
13
Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn fel gyda gwraig, y mae'r ddau wedi gwneud ffieidd-dra; y maent i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
14
Os bydd dyn yn priodi gwraig a'i mam, y mae'n gwneud anlladrwydd. Y mae ef a hwythau i'w llosgi yn y tn, rhag i anlladrwydd fod yn eich mysg.
15
Os bydd dyn yn gorwedd gydag anifail, y mae i'w roi i farwolaeth, a rhaid lladd yr anifail.
16
Os bydd gwraig yn dynesu at unrhyw anifail i'w rhoi ei hun iddo, y mae'r wraig a'r anifail i'w lladd; y maent i'w rhoi i farwolaeth ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
17
Os bydd dyn yn priodi ei chwaer, merch ei dad neu ei fam, ac yn cael cyfathrach rywiol hi, y mae'n warth. Y maent i'w torri ymaith yng ngu373?ydd plant eu pobl; y mae ef wedi amharchu ei chwaer ac y mae'n gyfrifol am ei drosedd.
18
Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig yn ei misglwyf, ac yn cael cyfathrach rywiol gyda hi, y mae wedi dinoethi tarddle ei diferlif gwaed ac y mae hithau wedi ei dinoethi. Y mae'r ddau ohonynt i'w torri ymaith o blith eu pobl.
19
Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gyda chwaer dy fam na chwaer dy dad, gan y byddai hynny'n amharchu perthynas agos; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu trosedd.
20
Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i fodryb, y mae'n amharchu ei ewythr; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu pechod, a byddant farw'n ddi-blant.
21
Os bydd dyn yn priodi gwraig ei frawd, y mae hynny'n aflan; amharchodd ei frawd, a byddant yn ddi-blant.
22
"'Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau ac i'w gwneud, rhag i'r wlad, lle'r wyf yn mynd chwi i fyw, eich chwydu allan.
23
Nid ydych i ddilyn arferion y cenhedloedd yr wyf yn eu hanfon allan o'ch blaenau; oherwydd iddynt hwy wneud yr holl bethau hyn, ffieiddiais hwy.
24
Ond dywedais wrthych chwi, "Byddwch yn etifeddu eu tir; byddaf fi yn ei roi ichwi'n etifeddiaeth, gwlad yn llifeirio o laeth a ml." Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch gosododd chwi ar wahn i'r bobloedd.
25
"'Yr ydych i wahaniaethu rhwng anifeiliaid gln ac aflan, a rhwng adar gln ac aflan. Nid ydych i'ch halogi eich hunain trwy unrhyw anifail, aderyn, nac unrhyw beth sy'n ymlusgo hyd y ddaear; dyma'r pethau a osodais ar wahn fel rhai aflan ichwi.
26
Yr ydych i fod yn sanctaidd i mi, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn sanctaidd; yr wyf wedi eich gosod ar wahn i'r bobloedd, i fod yn eiddo i mi.
27
"'Y mae unrhyw u373?r neu wraig yn eich plith sy'n ddewin neu'n swynwr i'w roi i farwolaeth; yr ydych i'w llabyddio cherrig, a byddant hwy'n gyfrifol am eu gwaed eu hunain.'"
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27