bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Leviticus 23
Leviticus 23
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 24 →
1
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Dywed wrth bobl Israel, 'Dyma fydd y gwyliau, sef gwyliau'r ARGLWYDD, a gyhoeddwch yn gym-anfaoedd sanctaidd:
3
"'Ar chwe diwrnod y cewch weithio, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth o orffwys, yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith, oherwydd ple bynnag yr ydych yn byw, Saboth i'r ARGLWYDD ydyw.
4
"'Dyma wyliau'r ARGLWYDD, y cym-anfaoedd sanctaidd yr ydych i'w cyhoeddi yn eu prydau.
5
Yng nghyfnos y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD,
6
ac ar y pymthegfed dydd o'r mis hwnnw bydd gu373?yl y Bara Croyw i'r ARGLWYDD; am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara heb furum.
7
Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.
8
Am saith diwrnod cyflwynwch offrymau trwy dn i'r ARGLWYDD; ar y seithfed dydd bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.'"
9
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
10
"Dywed wrth bobl Israel, 'Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, a medi ei chynhaeaf, yr ydych i ddod ag ysgub o flaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.
11
Bydd yntau'n chwifio'r ysgub o flaen yr ARGLWYDD, iddi fod yn dderbyniol drosoch; y mae'r offeiriad i'w chwifio drannoeth y Saboth.
12
Ar y diwrnod y chwifir yr ysgub yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD oen blwydd di-nam,
13
a chydag ef fwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, a hefyd ddiodoffrwm o chwarter hin o win.
14
Nid ydych i fwyta bara, grawn sych, na grawn ir cyn y diwrnod y byddwch yn dod 'ch rhodd i'ch Duw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.
15
"'O drannoeth y Saboth, sef y diwrnod y daethoch ag ysgub yr offrwm cyhwfan, cyfrifwch saith wythnos lawn.
16
Cyfrifwch hanner can diwrnod hyd drannoeth y seithfed Saboth, ac yna dewch bwydoffrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD.
17
O ble bynnag y byddwch yn byw dewch dwy dorth, wedi eu gwneud phumed ran o effa o beilliaid a'u pobi lefain, yn offrwm cyhwfan o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD.
18
Cyflwynwch gyda'r bara hwn saith oen blwydd di-nam, un bustach ifanc a dau hwrdd; byddant hwy'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, yn offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
19
Yna offrymwch un bwch gafr yn aberth dros bechod, a dau oen blwydd yn heddoffrwm.
20
Bydd yr offeiriad yn chwifio'r ddau oen a bara'r blaenffrwyth yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD; y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, yn eiddo'r offeiriad.
21
Ar y diwrnod hwnnw yr ydych i gyhoeddi cymanfa sanctaidd, ac i beidio gwneud unrhyw waith arferol. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ble bynnag y byddwch yn byw.
22
"'Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, paid medi at ymylon dy faes, a phaid lloffa dy gynhaeaf; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"
23
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
24
"Dywed wrth bobl Israel, 'Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gael diwrnod gorffwys; bydd yn gymanfa sanctaidd, i'w dathlu chanu utgyrn.
25
Nid ydych i wneud unrhyw waith arferol, ond cyflwynwch aberth trwy dn i'r ARGLWYDD.'"
26
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
27
"Yn wir, ar y degfed dydd o'r seithfed mis cynhelir Dydd y Cymod; bydd yn gymanfa sanctaidd ichwi, a byddwch yn ymddarostwng ac yn cyflwyno aberth trwy dn i'r ARGLWYDD.
28
Nid ydych i wneud unrhyw waith y diwrnod hwnnw, am ei fod yn Ddydd y Cymod, pan wneir cymod drosoch gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.
29
Bydd unrhyw un na fydd yn ymddarostwng y diwrnod hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.
30
Byddaf yn difa o blith ei bobl unrhyw un a fydd yn gweithio y diwrnod hwnnw.
31
Ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.
32
Y mae'n Saboth o orffwys ichwi, ac yr ydych i ymddarostwng. O gyfnos nawfed dydd y mis hyd y cyfnos drannoeth yr ydych i gadw eich Saboth yn orffwys."
33
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
34
"Dywed wrth bobl Israel, 'Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis cynhelir gu373?yl y Pebyll i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.
35
Bydd y diwrnod cyntaf yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.
36
Am saith diwrnod yr ydych i gyflwyno offrymau trwy dn i'r ARGLWYDD, ac ar yr wythfed diwrnod bydd gennych gynulliad sanctaidd, pan fyddwch yn cyflwyno aberth trwy dn i'r ARGLWYDD; dyma'r cynulliad terfynol, ac nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.
37
"'Dyma'r gwyliau i'r ARGLWYDD a gyhoeddwch yn gymanfaoedd sanctaidd i gyflwyno offrymau trwy dn i'r ARGLWYDD, sef y poethoffrymau, y bwydoffrymau, yr aberthau a'r diodoffrymau ar gyfer pob diwrnod.
38
Y mae'r rhain yn ychwanegol at offrymau Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich holl addunedau a'ch holl offrymau gwirfodd a roddwch i'r ARGLWYDD.
39
"'Felly, ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, ar l ichwi gasglu cynnyrch y tir, cynhaliwch u373?yl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod; bydd y diwrnod cyntaf yn ddiwrnod gorffwys a'r wythfed diwrnod yn ddiwrnod gorffwys.
40
Ar y diwrnod cyntaf yr ydych i gymryd blaenffrwyth gorau'r coed, canghennau palmwydd, brigau deiliog a helyg yr afon, a llawenhau o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod.
41
Dathlwch yr u373?yl hon i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau, eich bod i'w dathlu yn y seithfed mis.
42
Yr ydych i fyw mewn pebyll am saith diwrnod; y mae holl frodorion Israel i fyw mewn pebyll,
43
er mwyn i'ch disgynyddion wybod imi wneud i bobl Israel fyw mewn pebyll pan ddeuthum hwy allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"
44
Cyhoeddodd Moses holl wyliau'r ARGLWYDD i bobl Israel.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27