bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Matthew 19
Matthew 19
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
Pan orffennodd Iesu lefaru'r geiriau hyn, ymadawodd Galilea a daeth i diriogaeth Jwdea y tu hwnt i'r Iorddonen.
2
Dilynodd tyrfaoedd mawr ef, ac iachaodd hwy yno.
3
Daeth Phariseaid ato i roi prawf arno gan ofyn, "A yw'n gyfreithlon i u373?r ysgaru ei wraig am unrhyw reswm a fyn?"
4
Atebodd yntau gan ofyn, "Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?"
5
A dywedodd, "Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.
6
Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu."
7
Meddent hwy wrtho, "Pam felly y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar iddi a'i hanfon ymaith?"
8
Atebodd ef hwy, "Oherwydd eich ystyfnigrwydd y rhoddodd Moses ganiatd ichwi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd o'r dechreuad.
9
'Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu."
10
Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, "Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio phriodi."
11
Atebodd yntau, "Nid peth i bawb yw derbyn y gair hwn, dim ond i'r rhai a ddoniwyd felly.
12
Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn."
13
Yna daethpwyd phlant ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddo. Ceryddodd y disgyblion hwy,
14
ond dywedodd Iesu, "Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch 'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn."
15
Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno.
16
Dyma ddyn yn dod ato ac yn gofyn, "Athro, pa beth da a wnaf i gael bywyd tragwyddol?"
17
A dywedodd Iesu wrtho, "Pam yr wyt yn fy holi am yr hyn sy'n dda? Un yn unig sy'n dda. Ond os mynni fynd i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion."
18
Meddai yntau wrtho, "Pa rai?" Atebodd Iesu, "'Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha,
19
anrhydedda dy dad a'th fam', a 'Cr dy gymydog fel ti dy hun.'"
20
Dywedodd y dyn ifanc wrtho, "Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd. Beth arall sydd eisiau?"
21
Meddai Iesu wrtho, "Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi."
22
Ond pan glywodd y dyn ifanc y gair hwn, aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
23
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych mai anodd fydd hi i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas nefoedd.
24
'Rwy'n dweud wrthych eto, y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw."
25
Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, "Pwy felly all gael ei achub?"
26
Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd wrthynt, "Gyda dynion y mae hyn yn amhosibl, ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl."
27
Yna atebodd Pedr ef, "Dyma ni wedi gadael pob peth a'th ganlyn di. Beth felly a gawn ni?"
28
Dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, pan enir yr oes newydd, pan fydd Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, byddwch chwi a'm canlynodd i hefyd yn eistedd ar ddeuddeg gorsedd gan farnu deuddeg llwyth Israel.
29
A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i, caiff dderbyn ganwaith cymaint ac etifeddu bywyd tragwyddol.
30
Ond bydd llawer o'r rhai blaenaf yn olaf, ac o'r rhai olaf yn flaenaf.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28