bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Matthew 5
Matthew 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
1
Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato.
2
Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn:
3
"Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
4
Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cnt hwy eu cysuro.
5
Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cnt hwy etifeddu'r ddaear.
6
Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cnt hwy eu digon.
7
Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cnt hwy dderbyn trugaredd.
8
Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cnt hwy weld Duw.
9
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cnt hwy eu galw'n blant i Dduw.
10
Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
11
Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.
12
Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.
13
"Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed pobl.
14
Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn.
15
Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll a'i rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tu375?.
16
Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
17
"Peidiwch thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni.
18
Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd.
19
Am hynny pwy bynnag fydd yn dirymu un o'r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i eraill wneud felly, gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a'i ceidw ac a'i dysg i eraill, gelwir hwnnw'n fawr yn nheyrnas nefoedd.
20
'Rwy'n dweud wrthych, oni fydd eich cyfiawnder chwi yn rhagori llawer ar eiddo'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.
21
"Clywsoch fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, 'Na ladd; pwy bynnag sy'n lladd, bydd yn atebol i farn.'
22
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, 'Y ffu373?l', bydd yn ateb am hynny yn nhn uffern.
23
Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno'n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn,
24
gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith; myn gymod yn gyntaf 'th frawd, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm.
25
Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar.
26
Yn wir, 'rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n l y geiniog olaf.
27
"Clywsoch fel y dywedwyd, 'Na odineba.'
28
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb hi yn ei galon.
29
Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern.
30
Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.
31
"Dywedwyd hefyd, 'Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.'
32
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wahn i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu.
33
"Clywsoch hefyd fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, 'Na thynga lw twyllodrus', a 'Rhaid iti gadw pob llw a roist i'r Arglwydd.'
34
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch thyngu llw o gwbl; nac i'r nef, gan mai gorsedd Duw ydyw;
35
nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw.
36
Paid thyngu chwaith i'th ben, oherwydd ni elli wneud un blewyn yn wyn nac yn ddu.
37
Ond boed eich 'ie' yn 'ie', a'ch 'nage' yn 'nage'; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae.
38
"Clywsoch fel y dywedwyd, 'Llygad am lygad, a dant am ddant.'
39
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd.
40
Ac os bydd rhywun am fynd thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd.
41
Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddwy.
42
Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.
43
"Clywsoch fel y dywedwyd, 'Cr dy gymydog, a chas dy elyn.'
44
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddwch dros y rhai sy'n eich erlid;
45
felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn.
46
Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint hynny?
47
Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint hynny?
48
Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28