bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Matthew 24
Matthew 24
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml.
2
Dywedodd yntau wrthynt, "Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."
3
Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, "Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?"
4
Atebodd Iesu hwy, "Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.
5
Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw'r Meseia', ac fe dwyllant lawer.
6
Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sn am ryfeloedd; gofalwch beidio chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.
7
Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfu mewn mannau.
8
Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll.
9
Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.
10
A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd a chasu ei gilydd.
11
Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer.
12
Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.
13
Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.
14
Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.
15
"Felly, pan welwch 'y ffieiddbeth diffeithiol', y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd" dealled y darllenydd
16
"yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.
17
Y sawl sydd ar ben y tu375?, peidied mynd i lawr i gipio'i bethau o'i du375?;
18
a'r sawl sydd yn y cae, peidied throi yn ei l i gymryd ei fantell.
19
Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!
20
A gweddwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,
21
oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.
22
Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
23
Yna, os dywed rhywun wrthych, 'Edrych, dyma'r Meseia', neu 'Dacw ef', peidiwch 'i gredu.
24
Oherwydd fe gyfyd gau-feseiu a gau-broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
25
Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw.
26
Felly, os dywedant wrthych, 'Dyma ef yn yr anialwch', peidiwch mynd allan; neu os dywedant, 'Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu', peidiwch 'u credu.
27
Oherwydd fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
28
Lle bynnag y bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.
29
"Yn union ar l gorthrymder y dyddiau hynny, 'Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sr o'r nef, ac ysgydwir nerthoedd y nefoedd.'
30
A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr.
31
Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall.
32
"Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.
33
Felly chwithau, pan welwch yr holl bethau hyn, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws.
34
Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, nid 'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd.
35
Y nef a'r ddaear, nt heibio, ond fy ngeiriau i, nid nt heibio ddim.
36
"Ond am y dydd hwnnw a'r awr ni u373?yr neb, nac angylion y nef, na'r Mab, neb ond y Tad yn unig.
37
Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.
38
Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwu375?r, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch,
39
ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.
40
Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall.
41
Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall.
42
Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd.
43
Ond gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tu375? yn gwybod pa amser y byddai'r lleidr yn dod, buasai ar ei wyliadwriaeth ac ni fuasai wedi caniatu iddo dorri i mewn i'w du375?.
44
Am hynny chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.
45
"Pwy ynteu yw'r gwas ffyddlon a chall a osodwyd gan ei feistr dros weision y tu375?, i roi eu bwyd iddynt yn ei bryd?
46
Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;
47
yn wir, 'rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.
48
Ond os yw'r gwas hwnnw'n ddrwg, ac os dywed yn ei galon, 'Y mae fy meistr yn oedi',
49
a dechrau curo'i gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon,
50
yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gu373?yr;
51
ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r rhagrithwyr; bydd yno wylo a rhincian dannedd.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28