bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Matthew 25
Matthew 25
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
1
"Y pryd hwnnw bydd teyrnas nefoedd yn debyg i ddeg o enethod a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod 'r priodfab.
2
Yr oedd pump ohonynt yn ffl a phump yn gall.
3
Cymerodd y rhai ffl eu lampau ond heb gymryd olew gyda hwy,
4
ond cymerodd y rhai call, gyda'u lampau, olew mewn llestri.
5
Gan fod y priodfab yn hwyr yn dod aethant i gyd i hepian a chysgu.
6
Ac ar ganol nos daeth gwaedd: 'Dyma'r priodfab, ewch allan i'w gyfarfod.'
7
Yna cododd y genethod hynny i gyd a pharatoi eu lampau.
8
Dywedodd y rhai ffl wrth y rhai call, 'Rhowch i ni beth o'ch olew, oherwydd y mae'n lampau ni yn diffodd.'
9
Atebodd y rhai call, 'Na yn wir, ni fydd digon i ni ac i chwithau. Gwell i chwi fynd at y gwerthwyr a phrynu peth i chwi eich hunain.'
10
A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws.
11
Yn ddiweddarach dyma'r genethod eraill yn dod ac yn dweud, 'Syr, syr, agor y drws i ni.'
12
Atebodd yntau, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, nid wyf yn eich adnabod.'
13
Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr.
14
"Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal.
15
I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn l ei allu, ac fe aeth oddi cartref.
16
Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu hwy, ac fe enillodd atynt bump arall.
17
Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt.
18
Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr.
19
Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn l ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy.
20
Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. 'Meistr,' meddai, 'rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.'
21
'Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,' meddai ei feistr wrtho, 'buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.'
22
Yna daeth yr un 'r ddwy god, a dywedodd, 'Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.'
23
Meddai ei feistr wrtho, 'Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.'
24
Yna daeth yr un oedd wedi derbyn un god, a dywedodd, 'Meistr, gwyddwn dy fod yn ddyn caled, yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.
25
Yn fy ofn euthum a chuddio dy god o arian yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo yn l.'
26
Atebodd ei feistr ef, 'Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.
27
Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio.
28
Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i'r un a chanddo ddeg cod.
29
Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.
30
A bwriwch y gwas diwerth i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.'
31
"Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant.
32
Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr,
33
ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith.
34
Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, 'Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd.
35
Oherwydd bm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref;
36
bm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bm yn glaf ac ymwelsoch mi, bm yng ngharchar a daethoch ataf.'
37
Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: 'Arglwydd,' gofynnant, 'pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti?
38
A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat?
39
Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld thi?'
40
A bydd y Brenin yn eu hateb, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.'
41
"Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, 'Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tn tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion.
42
Bm yn newynog ac ni roesoch fwyd imi, bm yn sychedig ac ni roesoch ddiod imi;
43
bm yn ddieithr ac ni chymerasoch fi i'ch cartref, yn noeth ac ni roesoch ddillad amdanaf, yn glaf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch mi.'
44
Yna atebant hwythau: 'Arglwydd,' gofynnant, 'pryd y'th welsom di'n newynog neu'n sychedig neu'n ddieithr neu'n noeth neu'n glaf neu yng ngharchar heb weini arnat?'
45
A bydd ef yn eu hateb, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio 'i wneud i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.'
46
Ac fe 'r rhain ymaith i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol."
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28