bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Micah 1
Micah 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 2 →
1
Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem.
2
Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch; clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi. Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd, yn dyst yn eich erbyn.
3
Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan, yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear.
4
Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano, a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored, fel cwyr o flaen tn, fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered.
5
Am drosedd Jacob y mae hyn oll, ac am bechod tu375? Israel. Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria? Beth yw pechod tu375? Jwda? Onid Jerwsalem?
6
"Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored, yn lle i blannu gwinwydd; gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a dinoethaf ei sylfeini.
7
Malurir ei holl gerfddelwau, llosgir ei holl enillion yn y tn, a gwnaf ddifrod o'i delwau; o enillion puteindra y casglodd hwy, ac yn dl puteindra y dychwelant."
8
Am hyn y galaraf ac yr wylaf, a mynd yn noeth a heb esgidiau; galarnadaf fel y siacal, a llefain fel tylluanod yr anialwch,
9
am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf; oherwydd daeth hyd at Jwda, a chyrraedd at borth fy mhobl, hyd at Jerwsalem.
10
Peidiwch chyhoeddi'r peth yn Gath, a pheidiwch ag wylo yn Baca; yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch.
11
Ewch ymlaen, drigolion Saffir; onid mewn noethni a chywilydd yr trigolion Saanan allan? Galar sydd yn Beth-esel, a pheidiodd bod yn gynhaliaeth i chwi.
12
Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth, oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDD ddod hyd at borth Jerwsalem.
13
Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau, drigolion Lachis; chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion, ac ynoch chwi y caed troseddau Israel.
14
Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath; y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel.
15
Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa, a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam.
16
Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel, am y plant a hoffaist; gwna dy hun yn foel fel eryr, am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7