bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Micah 2
Micah 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 3 →
1
Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed, ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau, ac ar doriad dydd yn ei wneud, cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu.
2
Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio, a thai, ac yn eu meddiannu; y maent yn treisio perchennog a'i du375?, dyn a'i etifeddiaeth.
3
Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwg na all eich gwarrau ei osgoi; ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth, oherwydd bydd yn amser drwg.
4
Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch, a chenir galargan chwerw a dweud, 'Yr ydym wedi'n difa'n llwyr; y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo. Sut y gall neb adfer i mi ein meysydd sydd wedi eu rhannu?'"
5
Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbren yng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.
6
Fel hyn y proffwydant: "Peidiwch phroffwydo; peidied neb phroffwydo am hyn; ni ddaw cywilydd arnom.
7
A ddywedir hyn am du375? Jacob? A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd? Ai ei waith ef yw hyn? Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daioni i'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?
8
"Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelyn yn cipio ymaith fantell yr heddychol, ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.
9
Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol, ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.
10
Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi, oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio dinistr creulon.
11
Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud, 'Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn', ci fod yn broffwyd i'r bobl hyn."
12
"Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob, a chynullaf ynghyd weddill Israel; gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra, fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.
13
Fe 'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen; torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan. eu brenin o'u blaenau, a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain."
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7