bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Micah 5
Micah 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 6 →
1
"Yn awr, dos i mewn i'th gaer, ti ferch gaerog; y mae gwarchae wedi ei osod yn ein herbyn; trewir barnwr Israel ar ei foch ffon."
2
Ond ti, Bethlehem Effrata, sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, a'i darddiad yn y gorffennol, mewn dyddiau gynt.
3
Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog, ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israel at eu tylwyth.
4
Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD, ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw. A byddant yn ddiogel, oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear;
5
ac yna bydd heddwch. Pan ddaw Asyria i'n gwlad, a cherdded hyd ein tir, codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaid ac wyth o arweinwyr pobl.
6
A bugeiliant Asyria 'r cleddyf, a thir Nimrod 'r cleddyf noeth; fe'n gwaredant oddi wrth Asyria pan ddaw i'n gwlad a sarnu'n terfynau.
7
A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer, fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, fel cawodydd ar laswellt, nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn, nac yn aros am feibion dynion.
8
A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd, ac yng nghanol pobloedd lawer, fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig, fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid, sydd, wrth fynd heibio, yn mathru ac yn malurio, heb neb i waredu.
9
Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr, a thorrir ymaith dy holl elynion.
10
"Yn y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "distrywiaf dy feirch o'ch plith, a dinistriaf dy gerbydau.
11
Distrywiaf ddinasoedd dy wlad, a mathraf dy holl geyrydd.
12
Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael, ac ni fydd gennyt ddewiniaid.
13
Distrywiaf dy gerfddelwau a'th golofnau o'ch mysg, a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun.
14
Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith, a dinistriaf dy ddinasoedd.
15
Mewn llid a digofaint fe ddialaf ar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd."
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7