bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Micah 4
Micah 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 5 →
1
Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tu375?'r ARGLWYDD wedi ei osod ar ben y mynyddoedd ac yn uwch na'r bryniau. Dylifa'r bobloedd ato,
2
a daw cenhedloedd lawer, a dweud, "Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob, er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd ac i ninnau rodio yn ei lwybrau." Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
3
Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd, ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell; byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach;
4
a bydd pob un yn eistedd dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn. Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.
5
Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw, ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.
6
"Yn y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe gasglaf y cloff, a chynnull y rhai a wasgarwyd a'r rhai a gosbais;
7
a gwnaf weddill o'r cloff, a chenedl gref o'r gwasgaredig, a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seion yn awr a hyd byth.
8
A thithau, tu373?r y ddiadell, mynydd merch Seion, i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu, y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem."
9
"Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel? Onid oes gennyt frenin? A yw dy gynghorwyr wedi darfod, nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?"
10
"Gwinga a gwaedda, ferch Seion, fel gwraig yn esgor, oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinas ac yn byw yn y maes agored; byddi'n mynd i Fabilon. Yno fe'th waredir; yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achub o law d'elynion."
11
"Yn awr y mae llawer o genhedloedd wedi ymgasglu yn dy erbyn, ac yn dweud, 'Haloger hi, a chaed ein llygaid weld eu dymuniad ar Seion.'
12
Ond nid ydynt hwy'n gwybod meddyliau'r ARGLWYDD, nac yn deall ei fwriad, oherwydd y mae ef wedi eu casglu fel ysgubau i'r llawr dyrnu.
13
Cod i ddyrnu, ferch Seion, oherwydd gwnaf dy gorn o haearn a'th garnau o bres, ac fe fethri bobloedd lawer; yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw, a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear."
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7