bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Micah 7
Micah 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
1
Gwae fi! Yr wyf fel gweddillion ffrwythau haf, ac fel lloffion cynhaeaf gwin; nid oes grawnwin i'w bwyta, na'r ffigys cynnar a flysiaf.
2
Darfu am y ffyddlon o'r tir, ac nid oes neb uniawn ar l; y maent i gyd yn llechu i ladd, a phawb yn hela'i gilydd rhwyd.
3
Y mae eu dwylo'n fedrus mewn drygioni, y swyddog yn codi tl a'r barnwr yn derbyn gwobr, a'r uchelwr yn mynegi ei ddymuniad llygredig.
4
Y maent yn gwneud i'w cymwynas droi fel mieri, a'u huniondeb fel drain. Daeth y dydd y gwyliwyd amdano, dydd cosb; ac yn awr y bydd yn ddryswch iddynt.
5
Peidiwch rhoi hyder mewn cymydog, nac ymddiried mewn cyfaill; gwylia ar dy enau rhag gwraig dy fynwes.
6
Oherwydd y mae'r mab yn amharchu ei dad, y ferch yn gwrthryfela yn erbyn ei mam, y ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith; a gelynion rhywun yw ei dylwyth ei hun.
7
Ond edrychaf fi at yr ARGLWYDD, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth; gwrendy fy Nuw arnaf.
8
Paid llawenychu yn f'erbyn, fy ngelyn; er imi syrthio, fe godaf. Er fy mod yn trigo mewn tywyllwch, bydd yr ARGLWYDD yn oleuni i mi.
9
Dygaf ddig yr ARGLWYDD oherwydd pechais yn ei erbyn nes iddo ddadlau f'achos a rhoi dedfryd o'm plaid, nes iddo fy nwyn allan i oleuni, ac imi weld ei gyfiawnder.
10
Yna fe wl fy ngelyn a chywilyddio yr un a ddywedodd wrthyf, "Ble mae'r ARGLWYDD dy Dduw?" Yna bydd fy llygaid yn gloddesta arno, pan sethrir ef fel baw ar yr heolydd.
11
Bydd yn ddydd adeiladu dy furiau, yn ddydd ehangu terfynau,
12
yn ddydd pan ddnt atat o Asyria hyd yr Aifft, ac o'r Aifft hyd afon Ewffrates, o fr i fr, ac o fynydd i fynydd.
13
Ond bydd y ddaear yn ddiffaith, oherwydd ei thrigolion; dyma ffrwyth eu gweithredoedd.
14
Bugeilia dy bobl 'th ffon, y ddiadell sy'n etifeddiaeth iti, sy'n trigo ar wahn mewn coedwig yng nghanol Carmel; porant Basan a Gilead fel yn y dyddiau gynt.
15
Fel yn y dyddiau pan ddaethost allan o'r Aifft, fe ddangosaf iddynt ryfeddodau.
16
Fe wl y cenhedloedd, a chywilyddio er eu holl rym; rhnt eu dwylo ar eu genau a bydd eu clustiau'n fyddar;
17
llyfant y llwch fel neidr, fel ymlusgiaid y ddaear; dnt yn grynedig allan o'u llochesau, a throi mewn dychryn at yr ARGLWYDD ein Duw, ac ofnant di.
18
Pwy sydd Dduw fel ti, yn maddau camwedd, ac yn mynd heibio i drosedd gweddill ei etifeddiaeth? Nid yw'n dal ei ddig am byth, ond ymhyfryda mewn trugaredd.
19
Bydd yn tosturio wrthym eto, ac yn golchi ein camweddau, ac yn taflu ein holl bechodau i eigion y mr.
20
Byddi'n ffyddlon i Jacob ac yn deyrngar i Abraham, fel y tyngaist i'n tadau yn y dyddiau gynt.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7