bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Timothy 1
1 Timothy 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul, apostol i Grist Iesu yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr,
2
ac Iesu Grist ein gobaith, at Timothëus, fy ngwir fab mewn ffydd. Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddiwrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3
Fel y deisyfiais arnat aros yn Ephesus, wrth fyned o honof i Macedonia, fel y gorchymynech i rai beidio â dysgu athrawiaeth arall,
4
a pheidio â dal ar chwedlau ac achau diddiwedd y rhai a finistrant gwestiynau yn hytrach na disdeiniaeth Dduw, yr hon sydd mewn ffydd;
5
ond diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiragrith;
6
oddiwrth yr hyn bethau rhai a wyrasant ac a droisant ymaith at ofer-siarad,
7
gan ewyllysio bod yn ddysgawdwyr y Gyfraith, heb ddeall na’r pethau a ddywedant, nac am ba bethau y taerant.
8
Ond gwyddom mai da yw’r Gyfraith os bydd i neb ei harfer yn gyfreithlawn,
9
gan wybod hyn, sef nad i’ r cyfiawn y gosodir cyfraith, ond i’r rhai digyfraith ac afreolus, i annuwiolion a phechaduriaid, i’ r rhai disanctaidd a halogedig, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid,
10
i leiddiaid dynion, i butteinwyr, i wrryw-gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os rhyw beth arall sydd yn wrthwyneb i’r athrawiaeth iachus,
11
yn ol Efengyl gogoniant y Gwynfydedig Dduw, yr hon a ymddiriedwyd i mi.
12
Diolchgar wyf i’r Hwn a’m galluogodd, Crist Iesu ein Harglwydd, am mai ffyddlawn y barnodd fi; gan fy ngosod yn y weinidogaeth,
13
a mi gynt yn gablwr ac erlidiwr a sarhaus; eithr trugarhawyd wrthyf gan mai yn anwybodus y gwneuthym mewn anghrediniaeth,
14
a thra-amlhaodd gras ein Harglwydd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu.
15
Credadwy yw’r ymadrodd, a phob derbyniad a haedda, sef Crist Iesu a ddaeth i’r byd i achub pechaduriaid; o ba rai y pennaf yw myfi.
16
Eithr o achos hyn y trugarhawyd wrthyf, fel ynof fi, y pennaf, y dangosai Iesu Grist Ei holl hir-ymaros, er siampl o’r rhai ar fedr credu Ynddo Ef i fywyd tragywyddol.
17
Ac i’r Brenhin Tragywyddol, Anllygradwy, Anweledig, yr unig Dduw, bydded anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
18
Y gorchymyn hwn yr wyf yn ei roddi attat, fy mhlentyn Timothëus, yn ol y prophwydoliaethau a rag-ddaethant attat, ar filwrio o honot trwyddynt y filwriaeth ardderchog;
19
gan ddal ffydd a chydwybod dda, yr hon a wthiodd rhai ymaith,
20
ac o ran y ffydd y gwnaethant long-ddrylliad: o’r rhai y mae Humenëus ac Alecsander, y rhai a draddodais i Satan fel y dysger hwynt i beidio â chablu.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6