bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Timothy 4
1 Timothy 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Ond yr Yspryd a ddywaid yn bendant, yn yr amseroedd diweddarach y saif rhai ymaith oddiwrth y ffydd, gan ddal ar ysprydion cyfeiliornus ac athrawiaethau cythreuliaid,
2
trwy ragrith celwyddwyr a losg-nodwyd o ran eu cydwybod, yn gwahardd priodi,
3
ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd; y rhai Duw a’u creodd i’w derbyn gyda rhoddi diolch gan y ffyddloniaid, a’r rhai a wyddant y gwirionedd.
4
Canys pob peth creedig gan Dduw sydd dda, ac nid oes dim i’w daflu ymaith, pan gyda rhoddi diolch y derbynir,
5
canys cael ei sancteiddio y mae trwy air Duw a gweddi.
6
Gan ddwyn y pethau hyn ar gof i’r brodyr, gweinidog da fyddi i Grist Iesu, gan dy fagu dy hun yngeiriau’r ffydd a’r athrawiaeth dda yr hon a ddilynaist.
7
Ond y chwedlau halogedig ac hen-wreigaidd gwrthod: ond ymarfer i dduwioldeb;
8
canys ymarfer corphorol i ychydig y mae’n fuddiol; ond duwioldeb, i bob peth buddiol yw, ag addewid ganddo o’r bywyd y sydd yn awr ac o’r hwn ar fedr dyfod.
9
Credadwy yw’r ymadrodd, a phob derbyniad a haedda efe.
10
Canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymdrechwn, canys gobeithio yr ydym yn y Duw byw, yr Hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y rhai sy’n credu.
11
Gorchymyn y pethau hyn, a dysg hwynt.
12
Na fydded i neb ddirmygu dy ieuengctid di, eithr bydd yn ensiampl i’r rhai sy’n credu, mewn gair, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn ffydd, mewn purdeb.
13
Hyd oni ddelwyf, dal ar ddarllain, ar gynghori, ar athrawiaethu.
14
Nac esgeulusa y dawn sydd ynot ti, yr hwn a roddwyd i ti trwy brophwydoliaeth ynghydag arddodiad dwylaw yr henuriaeth.
15
Yn y pethau hyn bydd ddyfal; yn y pethau hyn parha, fel y bo dy gynnydd di yn amlwg i bawb.
16
Gwylia arnat dy hun, ac ar dy ddysgad: aros ynddynt; canys os hyn a wnai, ti dy hun a achubi, ac y rhai sydd yn dy glywed.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6