bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Timothy 3
1 Timothy 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
Credadwy yw’r ymadrodd, Os swydd esgob a chwennych neb, gwaith ardderchog a ddymuna efe.
2
Y mae rhaid, gan hyny, i’r esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr ei feddwl, yn weddaidd, yn lletteugar,
3
yn athrawaidd, nid yn gwerylus, nid yn darawydd, eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddi-ariangar,
4
yn llywodraethu yn dda ei dŷ ei hun, a’i blant ganddo mewn darostyngiad gyda phob difrifoldeb,
5
(ac os ei dŷ ei hun na ŵyr neb pa sut i’w lywodraethu, pa fodd am Eglwys Dduw y gofala?)
6
nid yn newyddian, rhag, wedi ymchwyddo o hono, i gondemniad diafol y syrthio.
7
Y mae rhaid hefyd iddo fod a thystiolaeth dda iddo oddiwrth y rhai oddi allan, fel nad i waradwydd y syrthio ac i fagl diafol.
8
Diaconiaid, yr un ffunud, y mae rhaid iddynt fod yn ddifrifol, nid yn ddau-eiriog, nid yn ymroi i win lawer,
9
nid yn budr-elwa, yn dal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.
10
Ac y rhai hyn, profer hwynt yn gyntaf; yna gwasanaethont swydd diaconiaid, os diargyhoedd fyddant.
11
Gwragedd yr un ffunud, y mae rhaid iddynt fod yn ddifrifol, nid yn enllibaidd, yn wyliadwrus, yn ffyddlawn ym mhob peth.
12
Diaconiaid i un wraig byddont wŷr, yn llywodraethu yn dda eu plant ac eu tai eu hunain;
13
canys y rhai a wasanaethasant swydd diaconiaid yn dda, gradd dda a ynnillant iddynt eu hunain, a llawer o hyfder yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
14
Y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder:
15
ond os tariaf, fel y gwypech pa fodd y mae rhaid ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw Eglwys y Duw byw, colofn a bonad y gwirionedd.
16
Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb, yr Hwn a amlygwyd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yspryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’ r cenhedloedd, a gredwyd Ynddo yn y byd, a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6