bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Timothy 2
1 Timothy 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
1
Gorchymyn yr wyf, gan hyny, yn gyntaf o bob peth, y gwneir ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn;
2
tros frenhinoedd a phawb y sydd mewn goruchafiaeth, fel y treuliom fuchedd lonydd a thangnefeddus ym mhob duwioldeb a difrifoldeb.
3
Hyn sydd ardderchog a chymmeradwy ger bron ein Hiachawdwr,
4
Duw, yr Hwn a ewyllysia i bawb fod yn gadwedig, ac i wybodaeth y gwirionedd y delont.
5
Canys un Duw sydd; un hefyd y cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu,
6
yr Hwn a’i rhoddes Ei hun yn bridwerth dros bawb,
7
y dystiolaeth yn ei hamseroedd ei hun, i’r hon y’m gosodwyd i yn gyhoeddwr ac apostol (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn celwyddu,) yn ddysgawdwr y cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
8
Mynnwn, gan hyny, weddïo o’r gwŷr ym mhob man, gan ddyrchafu dwylaw sanctaidd heb na digter na dadl;
9
yr un modd i wragedd addurno eu hunain â dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig ac aur, nac â pherlau neu wisg werthfawr,
10
eithr (yr hyn sy’n gweddu i wragedd yn proffesu duwioldeb) trwy weithredoedd da.
11
Bydded i wraig ei dysgu mewn llonyddwch gyda phob gostyngeiddrwydd;
12
ond athrawiaethu nid wyf yn caniattau i wraig, nac awdurdodi ar ŵr, eithr bod mewn llonyddwch;
13
canys Adam oedd y cyntaf i’w lunio,
14
yna Hefa; ac Adam ni thwyllwyd, ond y wraig, wedi ei thwyllo, oedd mewn trosedd;
15
ond cadwedig fydd trwy ddwyn plant, os arhosant mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd ynghyda sobrwydd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6