bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Timothy 5
1 Timothy 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
Henafgwr na ddwrdia, eithr cynghora ef fel tad; y rhai ieuengach fel brodyr;
2
y gwragedd hynach fel mammau; y rhai ieuengach fel chwiorydd, gyda phob purdeb.
3
Gwragedd gweddwon anrhydedda, y rhai sydd weddwon mewn gwirionedd.
4
Ond os rhyw wraig weddw sydd a chanddi blant neu ŵyrion, dysgont yn gyntaf arfer duwioldeb tuag at eu teulu eu hunain, a thalu yn ol i’w rhieni, canys hyn sydd gymmeradwy ger bron Duw.
5
Ac y weddw mewn gwirionedd, ac yn amddifad, a obeithia yn Nuw,
6
a pharhau y mae mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd; ond y drythyll, tra yn fyw, marw yw.
7
A’r pethau hyn gorchymyn fel y byddont ddiargyhoedd.
8
Ac os tros ei bobl ei hun, ac yn enwedig y rhai o’i dŷ, na ddarbod neb, y ffydd a wadodd efe, ac y mae yn waeth nag anghredadyn.
9
Megis gweddw cofrestrer yr hon nad yw lai na thri ugain mlwydd oed, a fu wraig i un gŵr,
10
mewn gweithredoedd da y tystiolaethir iddi, os dygodd blant i fynu, os bu letteugar, os traed y saint a olchodd, os y rhai cystuddiol a gynnorthwyodd, os pob gweithred dda a ddilynodd hi.
11
Ond gweddwon ieuengach gwrthod; canys pan anlladont yn erbyn Crist, priodi a ewyllysiant,
12
a chanddynt gondemniad, gan mai eu ffydd gyntaf a ddirmygasant,
13
ac hefyd dysgant fod yn ddiog, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn unig yn ddiog, eithr hefyd yn wag-siaradus ac yn ofer-lafurus, gan lefaru’r pethau na ddylid.
14
Mynnaf, gan hyny, i’r rhai ieuengach briodi, planta, gwarchod y tŷ, peidio â rhoi dim achlysur i’r gwrthwynebwr o ran difenwi;
15
canys eisoes rhai a droisant ymaith ar ol Satan.
16
Os oes rhyw wraig sy’n credu a chanddi wragedd gweddwon, cynnorthwyed hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys, fel y gwragedd gweddwon mewn gwirionedd y cynnorthwyo.
17
Yr henuriaid sy’n llywodraethu yn dda, cyfrifer hwynt yn deilwng o barch dau-ddyblyg, yn enwedig y rhai sy’n llafurio yn y Gair a’r dysgad;
18
canys dywaid yr Ysgrythyr, “Ych tra y dyrna, ni safn-rwymi;” ac, “Haeddu ei gyflog y mae’r gweithiwr.”
19
Yn erbyn henuriad na dderbyn gyhuddiad oddieithr dan ddau neu dri o dystion.
20
Y rhai sy’n pechu, argyhoedda yngwydd pawb, fel y bo’r lleill ag ofn arnynt.
21
Gorchymynaf ger bron Duw a Christ Iesu a’r angylion etholedig, gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.
22
Dwylaw na ddod ar frys ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau dynion eraill; dy hun cadw di yn bur.
23
Nac yf ddwfr yn hwy, eithr ychydig win arfera er mwyn dy gylla a’th fynych wendidau.
24
Rhai dynion sydd a’u pechodau yn amlwg, ac yn myned o’r blaen i farn; ac i rai hefyd y canlynant ar eu hol.
25
Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg; a’r rhai sydd amgenach, eu cuddio ni ellir.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6