bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Timothy 6
1 Timothy 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Cynnifer ag sydd dan yr iau, yn gaeth-weision, eu meistriaid barnont hwy yn deilwng o bob anrhydedd, fel na bo i enw Duw, a’r athrawiaeth, eu cablu.
2
A’r rhai sydd a chredinwyr yn feistriaid, na ddirmygont hwynt am mai brodyr ydynt; eithr gwasanaethont yn fwy am mai credinwyr ac anwylyd yw’r rhai sydd gyfrannogion o’r lleshad. Y pethau hyn dysg a chynghora.
3
Os athrawiaeth arall a ddysg neb, ac heb ddyfod at eiriau iachus, eiddo ein Harglwydd Iesu Grist, nac at yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb,
4
chwyddo y mae, heb ddim gwybodaeth ganddo, eithr yn afiach ynghylch cwestiynau ac ymrysonau ynghylch geiriau, o’r rhai y cyfyd cynfigen, cynhen, cableddau, meddyliau drwg-cecraethau dynion llygredig eu meddwl ac wedi colli’r gwirionedd,
5
ac yn tybied mai modd i ynnill yw duwioldeb;
6
ond modd mawr i ynnill yw duwioldeb ynghyda boddi lonrwydd;
7
canys nid oes dim a ddygasom i’r byd; canys dwyn dim allan chwaith nis gallwn:
8
ond tra a chenym ymborth a’r pethau a’n gorchuddiant, â’r pethau hyn y’n digonir.
9
Ond y rhai a fynnant fyned yn oludog, syrthio y maent i brofedigaeth a magl a chwantau ynfyd a niweidiol lawer, y rhai sy’n boddi dynion i ddinystr a cholledigaeth:
10
canys yn wreiddyn pob drwg y mae ariangarwch; yr hon, rhai yn chwannog iddi a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd, a hwynt eu hunain a wanasant â gofidiau lawer.
11
Ond tydi, ŵr Duw, y pethau hyn gochel; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra.
12
Ymdrecha ymdrech ardderchog y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i’r hwn y’th alwyd, a chyffesaist y gyffes ardderchog ger bron llawer o dystion.
13
Gorchymynaf i ti ger bron Duw, yr Hwn sy’n bywhau pob peth, a Christ Iesu, yr Hwn a dystiodd ger bron Pontius Pilatus y gyffes ardderchog;
14
gadw o honot y gorchymyn yn ddifefl, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist,
15
yr Hwn yn ei amserau ei hun, a ddengys y Bendigedig ac unig Lywodraethwr, Brenhin y rhai sy’n teyrnasu, ac Arglwydd y rhai sy’n arglwyddiaethu,
16
yr Hwn yn unig sydd a Chanddo anfarwoldeb, yn trigo yn y goleuni na ellir dyfod atto, yr Hwn ni welodd neb o ddynion nac a all Ei weled, i’r Hwn y bo anrhydedd a gallu tragywyddol. Amen.
17
I’r rhai goludog yn y byd presennol, gorchymyn na b’ont uchel feddwl, ac na obeithiont yn anamlygrwydd golud, eithr yn Nuw, yr Hwn sy’n rhoddi i ni bob peth mewn modd goludog,
18
er mwynhad; ar wneuthur o honynt ddaioni; ar fod yn oludog mewn gweithredoedd da, ar fod yn barod i ddosbarthu, yn chwannog i gyfrannu,
19
gan drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr hyn sydd ar fedr dyfod, fel y caffont afael ar y gwir fywyd.
20
O Timothëus, yr hyn a draddodwyd attat cadw, gan droi ymaith oddiwrth halogedig wag-seiniau a gwrthwynebiadau y wybodaeth a gam-enwir felly,
21
yr hon rhai yn ei phroffesu, bu iddynt, o ran y ffydd, fethu taro’r nod. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6