bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Ephesians 1
Ephesians 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul, apostol i Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Ephesus a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu:
2
gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn a’n bendithiodd â phob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist;
4
fel yr etholodd ni Ynddo Ef cyn seiliad y byd, i fod o honom yn sanctaidd ac yn ddianaf ger Ei fron mewn cariad,
5
wedi ein rhag-ordeinio ni i fabwysiad trwy Iesu Grist, Iddo Ei hun, yn ol boddlonrwydd Ei ewyllys,
6
er mawl gogoniant Ei ras, yr hwn a rad-roddodd Efe i ni yn yr Anwylyd,
7
yn yr Hwn y mae genym ein prynedigaeth trwy Ei waed, maddeuant ein camweddau,
8
yn ol golud Ei ras Ef, yr hwn a wnaeth Efe yn helaeth tuag attom ymhob doethineb a deall,
9
wedi hyspysu i ni ddirgelwch Ei ewyllys, yn ol Ei foddlonrwydd
10
yr hwn a arfaethodd Efe Ynddo Ef i ddisdeiniaeth cyflawnder yr amseroedd, i grynhoi ynghyd bob peth yng Nghrist, y rhai sydd yn y nefoedd, ac y rhai ar y ddaear;
11
ïe, Ynddo Ef, yn yr Hwn y’n gwnaethpwyd yn etifeddiaeth, wedi ein rhag-ordeinio yn ol arfaeth yr Hwn sydd yn gweithio pob peth yn ol cynghor Ei ewyllys,
12
fel y byddem er mawl Ei ogoniant, y rhai a obeithiasom o’r blaen yng Nghrist;
13
yn yr hwn chwychwi hefyd, wedi clywed Gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, ïe, yn yr Hwn hefyd, wedi credu o honoch, y’ch seliwyd ag Yspryd Glân yr addewid,
14
yr Hwn yw ernes ein hetifeddiaeth, hyd brynedigaeth Ei berchennogaeth, i fawl Ei ogoniant.
15
O herwydd hyn, myfi hefyd, wedi clywed am y ffydd yn yr Arglwydd Iesu, yr hon sydd yn eich plith, ac y sydd genych tua’r holl saint,
16
nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddïau, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist,
17
Tad y gogoniant, roddi i chwi yspryd doethineb a datguddiad yn Ei adnabod Ef,
18
wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon er mwyn gwybod o honoch pa beth yw gobaith Ei alwedigaeth, pa beth yw golud gogoniant Ei etifeddiaeth yn y saint,
19
a pha beth yw rhagorol fawredd Ei allu tuag attom ni y sy’n credu, yn ol gweithrediad nerth Ei gadernid,
20
yr hon a weithredodd Efe yng Nghrist, gan Ei gyfodi Ef o feirw a pheri Iddo eistedd ar Ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd,
21
goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn ar fedr dyfod.
22
A phob peth a ddarostyngodd Efe dan Ei draed Ef;
23
ac Ef a roddodd Efe yn ben dros bob peth, i’r eglwys, yr hon yw Ei gorph, cyflawnder yr Hwn sy’n cyflawni oll yn oll.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6