bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Ephesians 2
Ephesians 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
1
A chwychwi, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a’ch pechodau,
2
yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol gyrfa’r byd hwn, yn ol tywysog awdurdod yr awyr, yr yspryd y sydd yn awr yn gweithredu ym meibion anufudd-dod,
3
ymhlith y rhai yr oeddym ni oll â’n hymarweddiad gynt yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau’r cnawd a’r meddyliau, ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, fel y lleill;
4
ond Duw, gan fod yn oludog o drugaredd,
5
o herwydd Ei gariad mawr â’r hwn y carodd Efe ni, ïe, nyni, pan yn feirw trwy ein camweddau, a gydfywhaodd Efe ynghyda Christ,
6
(trwy ras yr ydych yn gadwedig,) ac a’ n cyd-gyfododd, a gwnaeth i ni gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu,
7
fel y dangosai i’r oesoedd sy’n dyfod ragorol olud Ei ras mewn cymmwynasgarwch tuag attom yng Nghrist Iesu,
8
canys trwy ras yr ydych yn gadwedig trwy ffydd, a hyn, nid o honoch chwi y mae; o eiddo Duw y mae’ r rhodd;
9
nid o weithredoedd y mae, fel na bo i neb ymffrostio;
10
canys Ei waith Ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu, er gweithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw fel ynddynt y rhodiem.
11
Am hyny, cofiwch mai gynt yr oeddych chwi, (y cenhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwir Di-amdorriad gan yr hyn a elwir Amdorriad,
12
yn y cnawd, o waith llaw,) yr oeddych y pryd hyny yn wahan oddiwrth Grist, yn ddieithriedig oddiwrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth gyfammodau yr addewid, heb obaith genych ac heb Dduw yn y byd;
13
ond yn awr yng Nghrist Iesu, chwychwi y rhai oeddych gynt ym mhell, a wnaethpwyd yn agos yngwaed Crist;
14
canys Efe yw ein heddwch, yr Hwn a wnaeth y ddau yn un, a chanol-fur y gwahaniaeth a ddattododd Efe,
15
gan ddirymmu’r gelyniaeth trwy Ei gnawd, sef cyfraith y gorchymynion mewn ordeiniadau; fel y creai y ddau, Ynddo Ei hun, yn un dyn newydd,
16
gan wneuthur heddwch, ac y cymmodai y ddau, mewn un corph, â Duw, trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth arni hi.
17
A daeth Efe ac efengylodd heddwch i chwi y rhai ym mhell,
18
ac heddwch i’r rhai yn agos, canys Trwyddo Ef y mae genym, ni ein dau, ddyfodfa mewn un Yspryd at y Tad.
19
Gan hyny, ynte, nid ydych mwyach yn ddieithriaid ac ymdeithyddion, eithr yr ydych yn gyd-ddinasyddion â’r saint ac yn deulu Duw,
20
wedi eich adeiladu ar sail yr apostolion a’r prophwydi, ac Iesu Grist Ei hun yn ben congl-faen,
21
yn yr hwn yr holl adeilad wedi ei chymmwys gydgyssylltu sy’n cynnyddu yn deml sanctaidd yn yr Arglwydd;
22
yn yr Hwn yr ydych chwi hefyd yn cael eich cyd-adeiladu yn breswylfod i Dduw, yn yr Yspryd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6