bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Ephesians 5
Ephesians 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
Byddwch, gan hyny, yn efelychwyr Duw, fel plant anwyl;
2
a rhodiwch mewn cariad, fel y bu i Grist hefyd ein caru ni, ac y traddododd Ei hun trosom yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd.
3
Ond godineb ac aflendid o bob math, neu gybydd-dra, nac enwer hwynt yn eich plith,
4
fel y gwedda i saint; na budreddi, nac ymadrodd ffol, na choeg ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus;
5
eithr yn hytrach rhoddi diolch; canys hyn a wyddoch yn llwyr, fod pob putteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hyn sydd eulun-addolwr, heb iddo etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw.
6
Na fydded i neb eich twyllo â geiriau gweigion; canys o achos y pethau hyn dyfod y mae digofaint Duw ar feibion anufudd-dod.
7
Gan hyny, na fyddwch gyfranogion â hwynt;
8
canys yr oeddych gynt yn dywyllwch, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd;
9
rhodiwch fel plant y goleuni; (canys ffrwyth y goleuni ymhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd y mae,)
10
gan brofi pa beth sydd foddlonol i’r Arglwydd; ac
11
na fydded i chwi gymdeithas â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, ond yn hytrach hyd yn oed argyhoeddwch hwynt;
12
canys y pethau a wneir yn y dirgel ganddynt, cywilyddus yw hyd yn oed eu henwi;
13
a phob peth, wrth gael ei argyhoeddi, gan y goleuni yr amlygir, canys pob peth y sy’n cael ei amlygu, goleuni yw;
14
o herwydd paham y dywaid, “Deffro, yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod o’r meirw, ac arnat y llewyrcha Crist.”
15
Edrychwch, gan hyny, yn ofalus pa fodd y rhodiwch,
16
nid fel annoethion, ond fel doethion, gan brynu’r amser;
17
canys y dyddiau, drwg ydynt; am hyny, na fyddwch ynfydion, eithr yn deall pa beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18
Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae cyfeddach,
19
eithr llanwer chwi â’r Yspryd, gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau a hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a pher-seinio â’ch calon i’r Arglwydd,
20
gan ddiolch bob amser am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist,
21
i Dduw ein Tad, gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Crist.
22
Y gwragedd, sef i’w gwŷr priod byddont fel i’r Arglwydd,
23
canys y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys, ac Efe yn iachawdwr y corph.
24
Ond fel y mae’r eglwys yn ymddarostwng i Grist, felly gwnaed y gwragedd i’w gwŷr ymhob peth.
25
Y gwŷr cerwch eich gwragedd, fel y bu i Grist hefyd garu yr eglwys, ac y traddododd Ef Ei hun drosti,
26
fel y sancteiddiai hi, wedi ei glanhau hi â’r noe dwfr, trwy’r gair,
27
ac y rhoddai Efe yr eglwys Iddo Ei hun, yn ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw bethau; eithr fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddianaf.
28
Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrph eu hunain; yr hwn sy’n caru ei wraig, ef ei hun a gar efe:
29
canys ni fu i neb erioed gasau ei gnawd ei hun, eithr ei fagu a’i feithrin y mae, fel y gwna Crist hefyd i’r eglwys,
30
canys aelodau ydym o’i gorph Ef.
31
“O achos hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth
32
ei wraig, a byddant ill dau yn un cnawd.” Y dirgelwch hwn, mawr yw; ond yr wyf fi yn llefaru gyda golwg ar Grist a’r eglwys.
33
Er hyny i gyd, chwychwi cymmain un, bydded i bob un felly garu ei wraig fel ef ei hun; a’r wraig, bydded iddi ofni ei gŵr.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6