bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Ephesians 4
Ephesians 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Deisyf arnoch, gan hyny, yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn deilwng o’r alwedigaeth â’r hon y’ch galwyd,
2
gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gyda hir-ymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad,
3
gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yng nghwlwm heddwch.
4
Un corph sydd, ac un Yspryd, fel y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;
5
un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad pawb,
6
yr Hwn sydd dros bawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.
7
Ond i bob un o honom y rhoddwyd y gras yn ol mesur dawn Crist.
8
O herwydd paham y dywaid, “Pan esgynodd i’r uchelder, caethiwodd gaethiwed, A rhoddodd roddion i ddynion.”
9
(Ond hyn, “Esgynodd,” pa beth yw oddieithr y bu iddo ddisgyn i barthau isaf y ddaear?
10
Yr Hwn a ddisgynodd, Efe yw’r Hwn a esgynodd goruwch yr holl nefoedd fel y llenwai bob peth:)
11
ac Efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn ddysgawdwyr,
12
er perffeithiad y saint, i waith y weinidogaeth,
13
i adeiladaeth corph Crist, hyd oni chyrhaeddwn oll i undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, i ŵr perffaith,
14
i fesur maint cyflawnder Crist; fel na byddom mwyach yn blant, yn bwhwmman a’n cylch-ddwyn â phob gwynt dysgeidiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol dyfais cam-arwain;
15
ond gan adrodd y gwir mewn cariad, y cynnyddom ymhob peth Iddo Ef, yr Hwn yw’r pen, sef Crist,
16
o’r Hwn, yr holl gorph yn cael ei gyfaddasu a’i gydgyssylltu trwy’r hyn y mae pob cymmal yn ei roddi, yn ol gweithrediad pob rhan mewn mesur, sy’n gwneuthur cynnydd y corph i’w adeiladaeth ei hun mewn cariad.
17
Hyn, gan hyny, yr wyf yn ei ddywedyd ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r cenhedloedd hefyd yn rhodio yn oferedd eu meddwl,
18
wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi eu dieithrio oddiwrth fuchedd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt,
19
o herwydd calediad eu calon; y rhai, wedi myned yn ddideimlad, a draddodasant eu hunain i drythyllwch i wneuthur pob aflendid gydag awydd.
20
Ond chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist, os, yn wir, am dano Ef y clywsoch,
21
ac Ynddo Ef y’ch dysgwyd fel y mae’r gwirionedd yn yr Iesu;
22
ar ddodi o honoch oddi am danoch, yn ol eich ymarweddiad gynt, yr hen ddyn y sy’n myned yn llygredig yn ol chwantau twyll,
23
a’ch adnewyddu yn yspryd eich meddwl,
24
a rhoddi am danoch y dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder ac yn sancteiddrwydd y gwirionedd.
25
Gan hyny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un â’i gymmydog, canys yr ydym yn aelodau o’n gilydd.
26
Digiwch, ac na phechwch; na fydded i’r haul fachludo ar eich ennyniad,
27
ac na roddwch le i ddiafol.
28
Yr hwn a ladrattai, na ladratted mwyach, ond yn hytrach llafuried gan weithio yr hyn sydd dda, â’i ddwylaw, fel y bo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn sydd ag angen arno.
29
Na fydded i neb rhyw ymadrodd llygredig ddyfod allan o’ch genau, eithr yr hwn a fo dda i adeiladaeth fel y mae eisiau, fel y rhoddo ras i’r gwrandawyr.
30
Ac na thristewch Yspryd sanctaidd Duw, yn yr Hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.
31
Pob chwerwder, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, rhodder ymaith oddiwrthych, ynghyda phob drygioni.
32
A byddwch gymmwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i’ch gilydd, fel y bu i Dduw hefyd, yng Nghrist, faddeu i chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6