bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Ephesians 6
Ephesians 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd, canys hyn sydd gyfiawn.
2
“Anrhydedda dy dad a’th fam,” (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf gydag addewid,)
3
“fel y bo’n dda i ti, ac y byddech hir-hoedlog ar y ddaear.”
4
Ac y tadau, nac ennynwch eich plant i ddigio; eithr maethwch hwynt yng yngherydd a chynghor yr Arglwydd.
5
Y gweision ufuddhewch i’ch meistriaid yn ol y cnawd gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, fel i Grist;
6
nid â llygad-wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr fel gweision Crist,
7
yn gwneuthur ewyllys Duw o’r enaid; yn gwasanaethu gydag ewyllys da, fel i’r Arglwydd, ac nid i ddynion,
8
gan wybod mai pa beth bynnag sy dda a wnelo pob un, hyny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd.
9
Ac y meistriaid, yr un pethau gwnewch tuag attynt hwy, gan roddi heibio fygwth, gan wybod fod eich meistr chwi a hwythau yn y nefoedd, a derbyn gwyneb nid oes gydag Ef.
10
Yn ddiweddaf, byddwch gryfion yn yr Arglwydd ac ynghadernid Ei allu.
11
Gwisgwch lwyr-arfogaeth Duw fel y galloch sefyll yn erbyn dichellion diafol,
12
canys nid oes i ni ein hymaflyd codwm yn erbyn gwaed a chnawd, eithr yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwyr y tywyllwch hwn, yn erbyn y lluoedd ysprydol drwg yn y nefolion leoedd.
13
O achos hyn cymmerwch i fynu lwyr-arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg;
14
ac wedi gwneuthur pob peth, sefyll. Sefwch, gan hyny, wedi amgylch-wregysu eich lwynau â gwirionedd,
15
ac wedi rhoddi am danoch ddwyfroneg cyfiawnder, ac wedi gwisgo am eich traed esgidiau parottoad efengyl tangnefedd;
16
ac ynghyda’r cwbl gan gymmeryd i fynu darian ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd y fall.
17
A helm iachawdwriaeth cymmerwch, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw Gair Duw;
18
gyda phob gweddi a deisyfiad, yn gweddïo bob amser yn yr Yspryd, ac yn gwylied ar hyn ei hun ymhob dyfal-bara, a deisyfiad am yr holl saint,
19
a throsof fi, fel i mi y rhodder ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau gydag hyfdra, i hyspysu dirgelwch yr efengyl,
20
dros yr hwn yr wyf yn gennad mewn cadwyn, fel ynddo y traethwyf gydag hyfdra, fel y dylwn lefaru.
21
Ond fel y gwypoch chwi hefyd fy matterion, pa wedd y mae gyda mi, hyspysa Tuchicus y cwbl i chwi, y brawd anwyl a’r gweinidog ffyddlawn yn yr Arglwydd,
22
yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn ei hun, fel y gwypoch ein helynt, ac y diddanai eich calonnau.
23
Tangnefedd i’r brodyr, a chariad ynghyda ffydd oddiwrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.
24
Gras fyddo gyda phawb sy’n caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anllygredigaeth.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6