bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Ephesians 3
Ephesians 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
O achos hyn myfi, Paul, carcharor Crist Iesu trosoch chwi genhedloedd,
2
os clywsoch, yn wir, am ddisdeiniaeth gras Duw yr hwn a roddwyd i mi tuag attoch,
3
mai trwy ddatguddiad yr hyspyswyd i mi y dirgelwch, (fel yr ysgrifenais o’r blaen ar ychydig eiriau,
4
trwy y rhai y gellwch, wrth ddarllen, weled fy neall yn nirgelwch Crist,)
5
yr hwn yng nghenedlaethau eraill ni hyspyswyd i feibion dynion fel y datguddiwyd ef yn awr i’w sanctaidd apostolion a phrophwydi,
6
yn yr Yspryd, fod y cenhedloedd yn gydetifeddion ac yn gydaelodau o’r corph, ac yn gyd-gyfrannogion o’r addewid yng Nghrist Iesu,
7
trwy’r Efengyl, i’r hon y’m gwnaed yn weinidog yn ol rhodd gras Duw, yr hwn a roddwyd i mi yn ol gweithrediad Ei allu Ef.
8
I myfi, a mi yn llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu i’r cenhedloedd olud anolrheiniadwy Crist;
9
ac i wneud i bawb weled pa beth yw disdeiniaeth y dirgelwch a guddiwyd er’s erioed yn Nuw, yr Hwn a greodd bob peth,
10
fel yr hyspysid yn awr i’r tywysogaethau a’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r Eglwys, ddoethineb mawr-amryw Duw,
11
yn ol yr arfaeth dragywyddol yr hon a wnaeth Efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd,
12
yn yr Hwn y mae genym hyfdra a dyfodfa mewn hyder trwy ein ffydd Ynddo.
13
O herwydd paham deisyfiaf na lwfrhaoch am fy mlinderau trosoch, y rhai yw eich gogoniant.
14
O achos hyn, plygu fy ngliniau yr wyf at y Tad,
15
o’r Hwn y mae pob teulu yn y nef ac ar y ddaear yn cael ei enwi,
16
ar roddi o Hono i chwi, yn ol golud Ei ogoniant, eich cadarnhau a gallu trwy Ei Yspryd, yn y dyn oddimewn,
17
a thrigo o Grist, trwy ffydd yn eich calonnau;
18
fel, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, y llwyr-alloch amgyffred, ynghyda’r holl saint, pa beth yw’r lled,
19
a’r hyd, a’r uchder a’r dyfnder, a gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner i holl gyflawnder Duw.
20
Ac i’r Hwn sydd abl i wneuthur yn dra-rhagorol tu hwnt i bob peth a ofynwn neu a feddyliwn, yn ol y gallu sy’n gweithredu ynom,
21
Iddo Ef y bo’r gogoniant yn yr eglwys ac yn Iesu Grist am yr holl genhedlaethau yn oes oesoedd. Amen.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6