bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Ephesians 1
Ephesians 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul, apostol Crist Iesu, drwy ewyllys Duw at y saint sydd (yn Effesus) a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu.
2
Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni a’r Arglwydd Iesu Grist.
3
Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist,
4
fel y dewisodd ni ynddo ef cyn sylfaenu’r byd i fod yn santaidd a difai ger ei fron ef,
5
wedi iddo ein rhaglunio ni mewn cariad i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo’i hun yn ôl rhadlonrwydd ei ewyllys ef,
6
er mawl gogoniant ei ras ef a gyfrannodd i ni yn yr anwylyd.
7
Yn hwn y mae gennym ryddhad drwy ei waed ef, sef maddeuant ein camweddau, yn ôl cyfoeth ei ras,
8
a arllwysodd arnom yn helaeth ymhob doethineb a deall,
9
wedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys yn ôl ei radlonrwydd ef,
10
a arfaethodd ynddo ef ar gyfer goruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, sef crynhoi popeth i ben yn y Crist, y pethau yn y nefoedd a’r pethau ar y ddaear.
11
Ynddo ef hefyd y’n gwnaed ni’n etifeddion, wedi ein rhaglunio yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn egnïo mewn popeth yn ôl cyngor ei ewyllys ei hun,
12
fel y byddem ni er mawl ei ogoniant ef, a ninnau o’r blaen wedi gobeithio yn y Crist.
13
Yn hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth, a chredu ynddo hefyd, a seliwyd ag Ysbryd Glân yr addewid,
14
sef ernes ein hetifeddiaeth ni ar gyfer rhyddhad yr eiddo, er mawl ei ogoniant ef.
15
Am hynny, wedi clywed am y ffydd sydd gennych yn yr Arglwydd Iesu a’ch cariad at yr holl saint,
16
nid wyf innau’n tewi â diolch trosoch gan eich coffáu yn fy ngweddïau, —
17
Duw ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y gogoniant, a roddo i chwi ysbryd doethineb a datguddiad mewn adnabyddiaeth ohono,
18
llygaid eich calon wedi eu goleuo hyd oni wypoch beth yw gobaith ei alwad ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint,
19
a beth yw tra-mawredd ei allu ef tuag atom ni sydd yn credu, yn ôl egni grym ei nerth ef,
20
[yr egni] a ddangosodd yn y Crist wrth ei gyfodi ef o feirw a’i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd
21
goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn y byd a ddaw.
22
A gosododd bopeth dan ei draed ef a rhoes ef yn ben goruwch popeth i’r eglwys,
23
yr hon yw ei gorff ef, cyflawnder yr un sydd yn cyflawni popeth ym mhob dim.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6