bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Ephesians 2
Ephesians 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
1
A chwithau’n feirw gan eich camweddau a’ch pechodau
2
y rhai y rhodiasoch ynddynt gynt yn null yr oes a’r byd, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yn awr yn egni ym meibion yr anufudd-dod, —
3
ac yn eu mysg y bu gynt ein buchedd ninnau oll yn chwantau ein cnawd, yn gwneuthur ewyllysiau ein cnawd a’n bryd, ac yr oeddem yn blant digofaint wrth natur fel y rhelyw hefyd, —
4
ond Duw yn ei gyfoeth o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad a roes arnom, a’n cydfywhaodd ni gyda’r Crist,
5
a ninnau’n feirw gan gamweddau — o ras yr ydych wedi eich cadw, — ac a’n cydgyfododd ac a’n
6
gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu,
7
er mwyn dangos yn yr oesoedd a ddaw dra-chyfoeth ei ras drwy ei diriondeb tuag atom ni yng Nghrist Iesu;
8
canys o ras yr ydych wedi eich cadw drwy ffydd, a hynny nid ohonoch eich hunain, ond rhodd Duw ydyw,
9
nid o weithredoedd rhag i neb ymffrostio.
10
Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu ar gyfer gweithredoedd da a ragbaratôdd Duw i ni i rodio ynddynt.
11
Gan hynny, cofiwch eich bod chwi gynt — y cenhedloedd yn y cnawd, a elwir yn ddienwaediad gan y rhai a elwir yn enwaediad, (gwaith llaw ar y cnawd oedd hynny),
12
eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, yn ddi-fraint yng ngwladwriaeth yr Israel, ac yn estroniaid i gyfamodau yr addewid, heb obaith gennych a heb Dduw yn y byd.
13
Ond yn awr yng Nghrist Iesu yr ydych chwithau, a oedd gynt ymhell, wedi dyfod yn agos trwy waed Crist.
14
Canys ef yw ein heddwch ni, a wnaeth y ddau beth yn un ac a chwalodd ganolfur y gwahaniad, sef yr elyniaeth,
15
ac a ddirymodd yn ei gnawd gyfraith y gorchmynion [a oedd] mewn ordeiniadau, er mwyn creu’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd gan wneuthur heddwch,
16
a chymodi’r ddwyblaid yn un corff â Duw drwy’r groes, wedi lladd yr elyniaeth trwyddi hi.
17
Ac fe ddaeth a chyhoeddodd heddwch i chwi y rhai pell a heddwch i’r rhai agos,
18
canys trwyddo ef y mae gennym ein dau fynediad mewn un ysbryd at y Tad.
19
Am hynny, nid dieithriaid a dyfodiaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion ydych â’r saint a theulu Duw,
20
wedi eich adeiladu ar garreg sylfaen yr apostolion a’r proffwydi, a Christ Iesu ei hunan yn ben conglfaen.
21
Ynddo ef y mae pob adeilad yn cael ei gydasio ac yn tyfu yn deml santaidd yn yr Arglwydd;
22
ynddo ef hefyd y’ch cydadeiledir chwithau yn gartref i Dduw yn yr ysbryd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6