bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Ephesians 6
Ephesians 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd, canys iawn yw hynny.
2
Anrhydedda dy dad a’th fam, — hwn yw’r gorchymyn cyntaf ag iddo addewid, —
3
fel y byddych dda arnat ac y byddych hirhoedlog ar y ddaear.
4
Chwithau, dadau, na chythruddwch eich plant, ond maethwch hwy yn nisgyblaeth a chyngor yr Arglwydd.
5
Y gweision, ufuddhewch i’ch meistriaid yn ôl y cnawd gydag ofn ac arswyd, yn unplygrwydd eich calon,
6
megis i’r Crist, nid â gwasanaeth llygad fel rhai’n boddio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneuthur ewyllys Duw o galon,
7
gan wasanaethu gydag ewyllys da fel i’r Arglwydd ac nid i ddynion,
8
a chwi’n gwybod pa ddaioni bynnag a wnêl unrhyw un, y derbyn hwnnw’n ôl ar law’r Arglwydd, boed ef gaeth neu rydd.
9
Chwithau, feistriaid, gwnewch yr un modd tuag atynt hwythau, gan adael bygwth heibio, a chwi’n gwybod bod eu Harglwydd hwy a’ch Arglwydd chwithau yn y nefoedd, ac nad oes derbyn wyneb gydag ef.
10
Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yng ngrym ei nerth ef.
11
Gwisgwch amdanoch gyflawn arfogaeth Duw er mwyn i chwi allu sefyll yn erbyn cynllwynion y diafol.
12
Canys nid yn yr afael â gwaed a chnawd yr ydym ni ond â llywodraethau, ag awdurdodau, â byd-arglwyddi’r tywyllwch hwn, â chethern yr anwiredd yn y nefolion leoedd.
13
Gan hynny, cymerwch gyflawn arfogaeth Duw fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi llawn orffen popeth, sefyll.
14
Sefwch, felly, wedi gwregysu eich lwynau â gwirionedd, ac wedi gwisgo amdanoch lurig cyfiawnder,
15
ac wedi rhoddi am eich traed barodrwydd efengyl heddwch,
16
a chymryd heblaw’r cwbl darian y ffydd, yr hon y gellwch ddiffodd â hi holl bicellau tanllyd y fall.
17
Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw,
18
gyda phob gweddi ac erfyniad, gan weddïo ar bob adeg yn yr Ysbryd, a gwylio ar hyn gyda phob taerineb ac erfyniad dros yr holl saint
19
a throsof innau, — fel y rhodder i mi ymadrodd yn agoriad fy ngenau, i hysbysu’n eofn gyfrinach yr
20
efengyl yr wyf yn gennad drosti mewn cadwyn, fel y bwyf eofn ynddi i lefaru fel y dylwn.
21
Er mwyn i chwithau, hefyd, wybod fy helynt sut y mae arnaf, cewch glywed popeth gan Tychicus, y brawd annwyl a’r gwas ffyddlon yn yr Arglwydd,
22
a anfonais atoch yn unswydd er mwyn i chwi wybod ein helynt ac iddo gysuro eich calonnau chwi.
23
Heddwch i’r brodyr a chariad ynghyd â ffydd oddi wrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.
24
Gras gyda phawb sy’n caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anfarwoldeb. WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF., CAERDYDD.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6