bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Ephesians 4
Ephesians 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Yr wyf i, felly, y carcharor yn yr Arglwydd, yn erfyn arnoch rodio’n deilwng o’r alwad y’ch galwyd chwi â hi,
2
gyda phob gostyngeiddrwydd a mwyneidd-dra, gyda hirymaros, gan gydymddwyn â’ch gilydd mewn cariad,
3
gan fod yn eiddgar i gadw undeb yr ysbryd yn rhwymyn heddwch;
4
un corff ac un ysbryd, fel y’ch galwyd hefyd mewn un gobaith, sef gobaith eich galwad;
5
un Arglwydd, un ffydd, un bedydd;
6
un Duw a Thad pawb, sydd goruwch pawb a thrwy bawb ac ym mhawb.
7
Ond i bob un ohonom y rhoddwyd gras yn ôl mesur dawn y Crist.
8
Am hynny y dywed Esgynnodd i’r uchelder a dug gaethiwed yn gaeth, rhoes roddion i ddynion.
9
Beth ynteu ydyw yr “esgynnodd” hwn ond ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?
10
Yr hwn a ddisgynnodd yw hwnnw hefyd a esgynnodd goruwch pob nef, er mwyn cyflawni popeth.
11
Ef hefyd a roes rai yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon,
12
i gymhwyso’r saint at waith gweinidogaeth, at adeiladu corff Crist,
13
hyd oni chyrhaeddom bawb at undeb y ffydd a’r adnabyddiaeth o Fab Duw, at y dyn llawn dwf, at fesur maintioli cyfiawnder Crist;
14
fel na byddom mwyach yn fabanod yn cael ein lluchio a’n cylchdroi gan bob gwynt o athrawiaeth, drwy hoced dynion, drwy ystryw i gynllwyn twyll,
15
ond, gan ddal at y gwir mewn cariad, y tyfom ym mhopeth ato ef. Ef yw’r pen, sef Crist,
16
ac ohono ef y mae’r holl gorff sy’n cael ei gydasio a’i gydgordeddu drwy holl gymalau ei gynhaliaeth yn ôl y gweithrediad sy’n gymesur â phob un rhan, yn tyfu er ei adeiladaeth ei hun mewn cariad.
17
Hyn, felly, yr wyf yn ei ddywedyd ac yn ei dynghedu yn yr Arglwydd, na rodioch mwyach fel y rhodia’r cenhedloedd yn oferedd eu meddwl,
18
yn dywyll eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fywyd Duw o achos yr anwybod sydd ynddynt, drwy ddallineb eu calonnau,
19
y rhai wedi colli pob teimlad a ymollyngodd i drythyllwch i weithredu pob aflendid yn eu gwanc.
20
Ond chwychwi, nid fel hyn y dysgasoch y Crist,
21
os ef yn wir a glywsoch ac os ynddo ef y’ch dysgwyd, fel y mae’n wirionedd yn yr Iesu;
22
am yr ymarweddiad gynt, diosgwch yr hen ddyn sydd yn ymlygru yn ôl chwantau’r twyll,
23
ac ymadnewyddwch yn ysbryd eich meddwl,
24
a gwisgwch y dyn newydd a grewyd ar ddelw Duw yng nghyfiawnder a santeiddrwydd y gwirionedd.
25
Gan hynny, diosgwch y celwydd, a dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, gan mai aelodau bob un o’i gilydd ydym.
26
Byddwch ddig ac na phechwch. Na fachluded yr haul ar eich dicter,
27
ac na roddwch gyfle i’r diafol.
28
Y lleidr, na fydded leidr mwyach, ond yn hytrach llafuried gan weithio gwaith da â’i ddwylo ei hun, fel y bo ganddo rywbeth i’w rannu gyda’r un a fo ag angen arno.
29
Na ddeued un gair di-les o’ch genau, ond pa air bynnag a fo’n dda at adeiladu’r hyn sy’n eisiau, fel y rhoddo fendith i’r gwrandawyr.
30
Ac na thristewch lân ysbryd Duw, y’ch seliwyd ag ef ar gyfer dydd y rhyddhad.
31
Pob chwerwder a nwyd a digofaint a thwrw a chabledd, ymaith â hwy oddi wrthych ynghyd â phob malais.
32
Byddwch dirion wrth eich gilydd a thyner-galon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yntau yng Nghrist i chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6