bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Ephesians 3
Ephesians 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
Oherwydd hyn, yr wyf i, Paul, carcharor Crist Iesu drosoch chwi’r cenhedloedd—
2
a bwrw eich bod wedi clywed am oruchwyliaeth gras Duw a roddwyd i mi ar eich cyfer chwi,
3
fel yr amlygwyd i mi y dirgelwch mewn datguddiad, megis yr ysgrifennais o’r blaen mewn byr eiriau,
4
fel y gellwch, wrth ddarllen, ddeall fy nirnadaeth i yn nirgelwch y Crist;
5
yr hwn ni wnaed yn hysbys yn yr oesoedd o’r blaen i feibion dynion fel y datguddiwyd ef yn awr i’w santaidd apostolion a’i broffwydi yn yr ysbryd,
6
sef bod y cenhedloedd yn gyd-etifeddion ac yn gyd-gorff ac yn gyd-gyfranogion o’r addewid yng Nghrist Iesu
7
trwy’r efengyl y gwnaed fi’n weinidog iddi yn ôl dawn gras Duw a roddwyd i ni yn ôl egni ei allu ef.
8
I mi’r lleiaf un o’r holl saint y rhoddwyd y gras hwn, i gyhoeddi efengyl i’r cenhedloedd
9
am anchwiliadwy gyfoeth y Crist ac i egluro beth yw goruchwyliaeth y dirgelwch a oedd yn guddiedig rhag yr oesoedd yn Nuw, creawdwr popeth,
10
fel yr hysbysid yn awr i’r llywodraethau a’r awdurdodau yn y nefolion leoedd drwy’r eglwys amryw dryfrith ddoethineb Duw,
11
yn ôl arfaeth oesol a wnaeth yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni,
12
yr hwn y mae gennym ynddo ehofndra a mynediad mewn hyder drwy ffydd ynddo ef.
13
Am hynny, yr wyf yn erfyn na lyfrhaoch wrth fy nhrallodion i drosoch chwi; hwy yw eich gogoniant chwi.
14
Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad
15
yr hwn yr enwir pob tadolaeth yn y nefoedd ac ar y ddaear oddi wrtho, ar iddo, yn ôl golud ei ogoniant ef,
16
roddi i chwi eich grymuso â nerth drwy ei ysbryd ef yn y dyn oddi mewn,
17
a phreswylio o’r Crist drwy ffydd yn eich calonnau,
18
ac i chwithau, wedi eich gwreiddio a’ch sylfaenu mewn cariad, gael nerth i amgyffred gyda’r holl saint beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder,
19
a gwybod cariad Crist sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y cyflawner chwi hyd at holl gyflawnder Duw.
20
Iddo ef sydd yn alluog i wneuthur uwchlaw popeth ymhell tu hwnt i’r hyn a ofynnwn neu a ddychmygwn, yn ôl y gallu sydd yn egni ynom,
21
iddo ef y gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu hyd yr holl genedlaethau yn oes oesoedd. Amen.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6