bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Ephesians 5
Ephesians 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
Byddwch, felly, efelychwyr Duw, fel plant annwyl,
2
a rhodiwch mewn cariad, fel y carodd Crist chwithau a’i roddi ei hunan drosom yn offrwm ac yn aberth i Dduw, yn aroglau peraidd.
3
Ond puteindra a phob aflendid neu drachwant, nac enwer chwaith yn eich plith, fel y mae’n weddus i saint,
4
a budreddi ac ynfyd siarad neu goegni, pethau sy’n annheilwng, — ond, yn hytrach, diolch.
5
Canys yr ydych yn gwybod hyn, a chwi’n deall am bob puteiniwr neu aflan neu drachwantus, — hynny yw, eilunaddolwr, — nad oes iddo gyfran yn nheyrnas Crist a Duw.
6
Na thwylled neb chwi â gwag eiriau; canys oherwydd y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar feibion yr anufudd-dod;
7
na fyddwch, felly, gyd-gyfranogion â hwy,
8
canys tywyllwch oeddech gynt, ond, yn awr, goleuni yn yr Arglwydd. Rhodiwch fel plant goleuni,
9
canys y mae ffrwyth y goleuni mewn pob ewyllys da ac uniondeb a chywirdeb,
10
gan ddyfalchwilio beth sydd yn rhyngu bodd yr Arglwydd.
11
Ac na foed gennych ran yng ngweithredoedd di-ffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach argyhoeddwch hwynt, —
12
oherwydd cywilyddus yw hyd yn oed enwi’r pethau a wneir yn ddirgel ganddynt;
13
gwneir popeth, wrth ei argyhoeddi, yn amlwg gan y goleuni, canys pob peth sydd yn dyfod i’r amlwg, goleuni yw.
14
Am hynny y dywed, Deffro, gysgadur, a chyfod o feirw, a Christ a dywynna arnat.
15
Edrychwch, felly, yn graff sut yr ydych yn rhodio, nid fel annoethion ond fel doethion,
16
gan brynu’r amser, gan fod y dyddiau’n ddrwg.
17
Am hynny na fyddwch ddisynnwyr, ond deellwch beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18
Ac na feddwer chwi ar win, — canys yn hyn y mae afradlonedd, — ond llanwer chwi â’r ysbryd,
19
gan ymddiddan â’ch gilydd mewn salmau ac emynau a cherddi ysbrydol, a chanu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd,
20
a diolch bob amser am bopeth yn enw ein Harglwydd ni, Iesu Grist, i Dduw a’r Tad,
21
gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Crist, —
22
y gwragedd i’w gwŷr eu hunain fel i’r Arglwydd.
23
Canys y gŵr yw pen y wraig fel y mae’r Crist yntau yn ben yr eglwys, yntau’n iachawdwr y corff.
24
Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i’r Crist, felly hefyd y gwragedd i’r gwŷr ym mhopeth.
25
Y gwŷr cerwch eich gwragedd fel y carodd y Crist yntau yr eglwys ac y rhoes ef ei hun drosti,
26
er mwyn ei santeiddio ar ôl ei glanhau â’r olchfa ddŵr ynghyd â’r gair,
27
fel y gosodai yr eglwys ger ei fron yn ogoneddus, heb arni frycheuyn na chrychni, na dim o’r fath, ond ei bod yn santaidd a difai.
28
Felly y dylai’r gwŷr hefyd garu eu gwragedd eu hunain fel eu cyrff eu hunain. Y mae’r hwn sy’n caru ei wraig ei hun, yn ei garu ei hunan,
29
oherwydd ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun ond y mae’n ei feithrin a’i anwesu, fel Crist hefyd yr eglwys,
30
canys aelodau ydym o’i gorff ef.
31
Am hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac yr ymlŷn wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.
32
Mawr ydyw’r dirgelwch hwn, — cyfeirio yr wyf at Grist ac at yr eglwys.
33
Beth bynnag, chwithau hefyd, cared pob un ohonoch ei wraig megis ef ei hun, a’r wraig, ofned ei gŵr.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6