bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Galatians 1
Galatians 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul Apostol, nid o ddynion na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist a Duw Dad a’i cyfododd ef oddiwrth y meirw,
2
a’r brodyr oll sydd gyda mi, at eglwysi Galatia.
3
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist,
4
a’i rhoddes ei hun dros ei pechodau ni, fel y’n gwaredai allan o’r byd drwg presennol yn ôl ewyllys Dduw a’n Tad ni,
5
i’r hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
6
Rhyfedd gennyf eich symud cyn gynted oddiwrth y neb a’ch galwodd chwi trwy ras Crist, i efengyl arall,
7
nad yw arall, ond bod rhai yn aflonyddu arnoch, ac yn ewyllysio gwrthdroi efengyl y Crist.
8
Ond hyd yn oed os efengylwn ni neu angel o nef i chwi beth amgen nag a efengylasom ichwi, bydded anathema.
9
Megis y dywedasom eisoes, dywedyd yr wyf eto yr awron, od oes neb yn efengylu i chwi beth amgen nag a dderbyniasoch, bydded anathema.
10
Yr awron, ynteu, ai boddhau dynion yr wyf ai Duw? — neu geisio bodloni dynion? Pe bawn eto yn bodloni dynion, ni byddwn gaethwas Crist.
11
Canys hysbysu yr wyf i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yn ôl dyn y mae hi:
12
oherwydd nid gan ddyn derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd ynddi, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.
13
Clywsoch am fy muchedd i gynt ym myd yr Iddew, mai dros fesur yr erlidiwn eglwys Dduw a’i difrodi hi,
14
a chynhyddu ym myd yr Iddew ragor llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn helaethach fy sêl dros draddodiadau fy nhadau.
15
Ond pan fu da gan hwnnw a’m neilltuodd o groth fy mam, ac a’m galwodd trwy ei ras,
16
ddatguddio ei fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd, yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed,
17
ac nid euthum i fyny i Gaersalem chwaith at y rhai oedd Apostolion o’m blaen i, ond euthum ymaith i Arabia, a thrachefn dychwelais i Ddamascus.
18
Yna, gwedi tair blynedd, euthum i fyny i Gaersalem i ymgydnabod â Cheffas, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod;
19
ond arall o’r apostolion ni welais, namyn Iago, brawd yr Arglwydd.
20
Am y pethau yr wyf yn eu sgrifennu atoch, wele, ger bron Duw, nid dywedyd celwydd yr wyf.
21
Yna euthum i barthau Syria a Chilicia,
22
a bum heb f’adnabod herwydd fy wyneb i’r eglwysi yn Iwdea sydd yng Nghrist.
23
Ond yn unig, clywed yr oeddynt, “Ein herlidiwr ni gynt, y mae ef yn awr yn pregethu’r ffydd a ddifrodai o’r blaen”,
24
a gogoneddent Dduw ynof fi.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6