bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Galatians 6
Galatians 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Frodyr, hyd yn oed os goddiweddir dyn mewn rhyw drosedd, chwithau, rai ysbrydol, atgyweiriwch y cyfryw mewn ysbryd addfwynder, gan edrych atat dy hun rhag dy demtio dithau.
2
Dygwch feichiau’r naill y llall, ac felly, cyflawnwch ddeddf y Crist.
3
Canys o thyb neb ei fod yn rhywbeth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae’n ei dwyllo’i hun.
4
Ond profed pob un ei waith ei hun, ac yna, ynddo’i hun yn unig y bydd ei fost, ac nid mewn arall,
5
canys fe ddwg pob un ei bwn ei hun.
6
A chyfranoged y neb a hyfforddir yn y gair â’r sawl a’i hyfforddo, ym mhob peth da.
7
Na thwyller chwi — Duw, nis gwatworir; canys pa beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed.
8
Canys y neb a heuo i’w gnawd ei hun, o’r cnawd y med lygredigaeth; y neb a heuo i’r Ysbryd, o’r Ysbryd y med fywyd tragwyddol.
9
Ac yng ngwneuthur y peth sydd dda, na lwfrhawn, canys yn y priod dymor, medwn, oni ddiffygiwn.
10
Am hynny, ynteu, tra bo i ni gyfle, gwnawn i bawb y peth sydd dda, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.
11
Gwelwch frased fy llythrennau, â mi’n ysgrifennu atoch â’m llaw fy hun:
12
Cynifer ag sy’n mynnu teg-ymystumio o flaen dynion, cais y rhai hyn fod enwaedu arnoch, yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.
13
Canys hyd yn oed y rhai yr enwaedir arnynt, ni chadwant hwythau mo’r ddeddf, eithr mynnant fod enwaedu arnoch fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi.
14
Ond amdanaf i, byth nad ymffrostiwyf onid yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r hwn y mae’r byd wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i’r byd.
15
Canys nid yw nac enwaediad na dienwaediad ddim, — eithr creadigaeth newydd.
16
A chynifer ag a gerdda wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt, a thrugaredd, ac ar Israel Duw.
17
O hyn allan na’m poened neb, canys myfi, dygaf nodau’r Iesu yn fy nghorff.
18
Gras ein Harglwydd ni, Iesu Grist, a fo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6