bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Galatians 5
Galatians 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
I ryddid y rhyddhaodd Crist nyni. Sefwch gan hynny, ac na’ch dalier drachefn tan iau caethiwed.
2
Wele, dywedyd yr wyf fi, Paul, wrthych, od enwaedir arnoch, ni bydd Crist o ddim budd i chwi.
3
A thystio’r wyf eto, wrth bob dyn yr enwaeder arno, mai ei ddyled yw cadw’r ddeddf i gyd.
4
Gwahan-ddiddymwyd chwi oddiwrth Grist, chwi, sy’n ceisio’ch cyfiawnhau trwy ddeddf, cwympasoch oddiwrth ras.
5
Canys nyni, trwy’r Ysbryd, ar sail ffydd, disgwl yr ydym am obaith cyfiawnder.
6
Canys yng Nghrist Iesu, ni ddichon nac enwaediad ddim, na dienwaediad, namyn ffydd a ddoder ar waith trwy gariad.
7
Rhedech yn wych; pwy a’ch rhwystrodd chwi rhag ufuddhau i’r gwirionedd?
8
Y cymell hwn, nid oddiwrth y neb sydd yn eich galw y mae.
9
Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r toes i gyd.
10
Y mae gennyf hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim amgen; ond y neb sy’n aflonyddu arnoch, fe ddwg hwnnw ei farnedigaeth, pwy bynnag a fo.
11
A minnau, frodyr, os enwaediad yr wyf eto’n ei bregethu, paham y’m herlidir eto? — wele dramgwydd y Groes wedi ei ddidymu!
12
O, na bai eich aflonyddwyr yn eu disbaddu eu hunain!
13
Canys chwi, i ryddid y’ch galwyd frodyr; yn unig, na bydded eich rhyddid yn achlysur gennych i’r cnawd, ond trwy gariad, gwasanaethu’ch gilydd.
14
Canys y ddeddf i gyd, mewn un gair y cyflawnir hi, sef yw, hwn: Câr dy gymydog fel ti dy hun.
15
Ond os cnoi ac ysu’ch gilydd a wnewch, gwyliwch na’ch difether y naill gan y llall.
16
Dyma fy meddwl — rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni chyflawnwch mo chwant y cnawd.
17
Canys chwennych y mae’r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd, canys gwrthwyneb i’w gilydd yw’r rhai hyn, fel na alloch wneuthur pa bethau bynnag a ewyllysioch.
18
Ond os gan yr ysbryd y’ch arweinir, nid ydych tan ddeddf.
19
Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd: y cyfryw ydyw godineb, aflendid, anlladrwydd,
20
eilunaddoli, swyngyfaredd, gelyniaethau, cynnen, eiddigedd, llidiau, ymrysonau, ymraniadau, ymrwygiadau,
21
cenfigennau, meddwdod, cyfeddach, a phethau cyffelyb i’r rhai hyn, pethau yr wyf yn dywedyd wrthych ymlaen llaw amdanynt, megis y dywedais eisoes, na chaiff y neb a wnel y cyfryw etifeddu teyrnas Dduw.
22
Ond ffrwyth yr ysbryd ydyw cariad, llawenydd, tangnefedd, hir-ymaros, tiriondeb, daioni, ffydd, addfwynder, hunan-feistrolaeth;
23
yn erbyn y cyfryw, deddf nid oes.
24
Ond y rhai sydd eiddo Crist Iesu croeshoeliasant y cnawd ynghyd â’i anwydau a’i chwantau.
25
Os byw yn yr ysbryd yr ydym rhodiwn hefyd yn yr ysbryd.
26
Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ddal herr ar ein gilydd, gan genfigennu y naill wrth y llall.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6