bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Galatians 3
Galatians 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
O, Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygatynnodd chwi, a Iesu Grist wedi ei arddangos o flaen eich llygaid chwi yn groeshoeliedig?
2
Hyn yn unig y mynnwn ei wybod gennych, — ai trwy weithredoedd deddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ai trwy wrando mewn ffydd?
3
A ydych ynfyted? Wedi dechreu ohonoch gyda’r Ysbryd, a orffennwch chwi yn awr gyda’r cnawd?
4
A brofasoch chwi gymaint yn ofer — os ofer hefyd?
5
Dowch! yr un sy’n rhoddi i chwi’r ysbryd ac yn gweithio yn eich plith chwi wyrthiau — ai trwy weithredoedd deddf ai trwy wrando mewn ffydd y mae hynny?
6
Diau, megis y credodd Abraham i Dduw ac fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
7
Gwelwch gan hynny mai teulu ffydd, y rhai hyn yw meibion Abraham.
8
A’r ysgrythur, gan ragweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau’r cenhedloedd, rhagefengylodd wrth Abraham: Bendithir ynot ti yr holl genhedloedd.
9
Felly bendithir teulu ffydd gydag Abraham ffyddiog.
10
Canys cynifer oll ag y sydd o deulu gweithredoedd deddf, o dan fellith y maent; canys ysgrifenedig yw: Melltigedig pob un nad erys wrth bob peth a sgrifennwyd yn llyfr y ddeddf i’w gwnethur hwynt
11
Ac eglur yw na chyfiawnheir neb wrth ddeddf ger bron Duw, canys y cyfiawn trwy ffydd y bydd byw,
12
ond y ddeddf, nid o ffydd y mae, eithr y neb a wna’r pethau hyn, bydd byw drwyddynt.
13
Crist a’n prynodd ni oddiwrth felltith y ddeddf trwy ddyfod yn felltith drosom, canys ysgrifenedig yw: Melltigedig pob un a fo crog ar drostan,
14
fel y delai bendith Abraham i’r cenhedloedd yn Iesu Grist, a derbyn ohonom ninnau drwy ffydd addewid yr Ysbryd.
15
Frodyr, — dywedyd yr wyf ar wedd dynion — hyd yn oed cyfamod dyn, wedi y cadarnhäer, ni bydd neb yn ei ddirymu, nac yn ychwanegu ato.
16
I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef: ni ddywedir “ac i’w hadau”, megis am liaws, eithr megis am un, ac i’th had di, sef yw hwnnw, Crist.
17
Dyma fy meddwl — am gyfamod a gadarnhawyd ymlaen llaw gan Dduw, nid yw’r ddeddf a ddaeth bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi hynny, yn ei ddiddymu hyd at ddirymu’r addewid.
18
Canys os wrth ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach wrth addewid: ond i Abraham, trwy addewid y mae Duw wedi ei rhad-roddi.
19
Beth gan hynny am y ddeddf? I beri troseddau yr atodwyd hi, hyd oni ddelai’r had y gwnaethpwyd yr addewid iddo, a’i gorchymyn drwy angylion yn llaw canolwr.
20
Ac nid tros un y mae canolwr, eithr Duw, un ydyw.
21
A ydyw’r ddeddf gan hynny yn groes i addewidion Duw? Na ato. Canys pe rhoisid deddf ag iddi allu i beri bywyd, drwy’r ddeddf yn wir y buasai cyfiawnder.
22
Eithr cyd-gaeodd yr ysgrythur bob peth oddi tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd yn Iesu Grist i’r sawl sy’n credu.
23
Ond cyn dyfod y ffydd hon, yr oedd gwarchod arnom tan y ddeddf, a’n cyfyngu i’r ffydd yr oeddis ar fedr ei datguddio.
24
Felly daeth y ddeddf yn was plant i’n dwyn at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd.
25
Ond wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach tan was plant.
26
Canys meibion i Dduw drwy ffydd ydych oll, yng Nghrist Iesu:
27
oblegid cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yn un â Christ, gwisgasoch Grist.
28
Ni all bod nac Iddew na Groegwr, ni all bod na chaeth na rhydd, ni all bod na gwryw na benyw: canys chwi oll, un ydych yng Nghrist Iesu.
29
Ac os eiddo Crist ydych chwi, yna had Abraham ydych, etifeddion wrth addewid.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6