bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Galatians 4
Galatians 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Dyma fy meddwl — hyd tra bo’r etifedd yn blentyn, ni bydd dim rhagor rhyngddo â gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl.
2
Ond o dan ofalwyr y bydd, a goruchwylwyr, hyd yr amser a bennodd y tad.
3
Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, mewn caethiwed yr oeddym oddi tan ysbrydion elfennau ’r byd.
4
Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, danfonodd Duw ei fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur oddi tan y ddeddf,
5
fel y prynai’r rhai oedd oddi tan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.
6
Ac oblegid mai meibion ydych, danfonodd Duw i’n calonnau ni Ysbryd ei Fab, yn llefain Abba Dad.
7
Felly nid wyt mwy was, ond mab, ac os mab, etifedd hefyd trwy Dduw.
8
Eithr y pryd hwnnw, â chwi heb adnabod Duw, caethweision oeddych i’r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau.
9
Ond yn awr, wedi dyfod ohonoch i adnabod Duw, neu’n hytrach wedi dyfod i’ch adnabod gan Dduw, pa fodd yr ymchwelwch eilwaith at ysbrydion llesg a thlawd yr elfennau; a mynnu eilwaith o newydd eu gwasanaethu?
10
Cadw dyddiau yr ydych, a misoedd, ac amserau, a blynyddoedd.
11
Ofni’r wyf amdanoch, rhag digwydd darfod i mi ymboeni wrthych yn ofer.
12
Byddwch fel myfi, canys deuthum innau i fod fel chwychwi, frodyr, yr wyf yn deisyf arnoch. Ni wnaethoch â mi ddim cam,
13
ond gwyddoch mai oherwydd gwendid fy nghnawd yr efengylais y waith gyntaf i chwi,
14
a’r hyn oedd demtasiwn i chwi yn fy nghnawd i, nis dirmygasoch, ac nis ffieiddiasoch, eithr fy nerbyn i megis angel Duw, megis Crist Iesu.
15
Pa le y mae’ch ymannerch, ynteu? Canys tystio yr wyf i chwi, â bod modd, y tynasech allan eich llygaid a’u rhoddi i mi.
16
Felly a euthum i yn elyn i chwi, a mi’n dywedyd y gwir wrthych?
17
Eich anwesu y maent hwy, nid ag amcan da, eithr ewyllysiant eich cau chwi allan, fel yr anwesoch hwythau.
18
Ond da yw’ch anwesu mewn peth da bob amser, ac nid yn unig a minnau yno yn eich gŵydd chwi,
19
fy mhlant bychain, y rhai yr wyf ym mhoenau esgor drostynt eilwaith, hyd oni ffurfier Crist ynoch chwi.
20
Ond mynnwn fy mod yna yn eich plith yr awron, a newid fy nhôn, canys yr wyf mewn penbleth o’ch plegid.
21
Dywedwch i mi, chwi sy’n ewyllysio bod tan ddeddf, onid ydych yn clywed y ddeddf?
22
Canys ysgrifenedig yw — cafodd Abraham ddau fab, un o’r gaethferch ac un o’r wraig rydd:
23
eithr hwnnw a oedd o’r gaethferch, yn ôl y cnawd y cenhedlwyd: ond hwnnw o’r wraig rydd, trwy addewid.
24
Alegorïaidd yw’r pethau hyn, canys y ddwy hyn, dau gyfamod ydynt, un o fynydd Sinai, yn cenhedlu i gaethiwed, sef yw,
25
Hagar (a Hagar, mynydd Sinai yn Arabia yw), a chyfateb y mae i’r Gaersalem sydd yn awr; canys mewn caethiwed y mae hi ynghyd â’i phlant;
26
ond y Gaersalem fry, rhydd ydyw, honno yw ein mam ni;
27
canys ysgrifenedig yw: Llawenha, dydi ddiepil, nad wyt yn planta; torr i ganu a bloeddia, dydi nad wyt yn esgor; canys llawer fydd plant yr un amhriod ragor honno y mae gŵr iddi.
28
A chwithau, frodyr, plant addewid ydych, un wedd ag Isaac.
29
Eithr megis gynt yr erlidiai hwnnw, a genhedlwyd yn ôl y cnawd, yr un a genhedlwyd yn ôl yr Ysbryd, felly eto hefyd.
30
Ond pa beth a ddywed yr ysgrythur? Bwrw allan y gaethferch a’i mab: canys ni bydd mab y gaethferch yn etifedd, ddim gyda mab y wraig rydd.
31
Felly, frodyr, nid plant i’r gaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6