bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Galatians 2
Galatians 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
1
Yna, ar ben pedair blynedd ar ddeg, euthum eilwaith i fyny i Gaersalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd i’m canlyn.
2
Ac euthum i fyny yn ôl datguddiad, a gosodais o’u blaenau yr efengyl yr wyf yn ei chyhoeddi ym mhlith y cenhedloedd, gan ei gosod o flaen “yr awdurdodau” o’r neilltu, rhag digwydd mai yn ofer y rhedwn neu y rhedaswn.
3
Eithr hyd yn oed Titus, ac yntau gyda mi, ac yn Roegwr, ni orfuwyd enwaedu arno.
4
Eithr oblegid y gau frodyr a ddygesid i mewn yn llechwraidd, dynion a lithrodd i mewn i ysbïo ein rhyddid ni, sydd eiddom yng Nghrist Iesu, er mwyn ein dwyn i gaethiwed —
5
iddynt hwy nid ymroisom, naddo dros awr, â chyfryw ymddarostyngiad, fel yr arhosai gwirionedd yr Efengyl o’ch rhan chwi.
6
A chan y rhai y tybir eu bod yn “awdurdodau”, — pa fath oeddynt unwaith, nid yw ddim i mi (nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn) — i mi, meddaf, ni chwanegodd yr “awdurdodau” un peth:
7
na, i’r gwrthwyneb, â hwy yn gweled ddarfod ymddiried yr efengyl at y dienwaededig i mi, megis yr efengyl at yr enwaededig i Bedr,
8
(canys y neb a weithredodd o du Pedr fel y byddai Apostol at yr enwaededig, a weithredodd o’m tu innau at y cenhedloedd),
9
ac â hwy yn canfod y gras a roddwyd i mi, rhoddes Iago a Cheffas ac Ioan, y rhai y tybir eu bod yn golofnau, ddeheulaw cymdeithas i mi a Barnabas, fel y byddem, nyni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaededig:
10
yn unig, bod i ni gofio’r tlodion, yr union beth yr oeddwn innau yn eiddgar i’w wneuthur.
11
A phan ddaeth Ceffas i Antiochia, sefais i’w erbyn yn ei wyneb, oblegid ar gam yr oedd:
12
canys cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, cyd-fwytâi â’r cenhedloedd; ond wedi eu dyfod hwynt, dechreuodd dynnu’n ôl ac ymgadw draw, rhag ofn teulu’r enwaediad.
13
A chyd-ragrithiodd yr Iddewon eraill ag ef, fel yr ysgubwyd Barnabas yntau i ganlyn eu rhagrith hwy.
14
Eithr pan welais nad oeddynt yn iawn-droedio yn ôl gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Geffas yng ngŵydd pawb: Os wyt ti, â thithau’n Iddew, yn byw ar ddull cenhedlig, ac nid ar ddull Iddewig, paham y gorfyddi’r cenhedloedd i ymarwedd megis Iddewon?
15
Nyni, sydd Iddewon wrth natur, ac nid pechaduriaid o blith cenhedloedd,
16
â ni’n gwybod na chyfiawnheir dyn trwy weithredoedd deddf, namyn trwy ffydd yng Nghrist Iesu, credasom ninnau hefyd yng Nghrist, ac nid trwy weithredoedd deddf; canys trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd
17
Ond, â ni’n ceisio bod ein cyfiawnhau yng Nghrist, os cafwyd ninnau hefyd yn bechaduriaid, yna, ai gweinidog pechod yw Crist? Na ato.
18
Canys os y pethau a ddymchwelais yr wyf eilwaith yn eu hadeiladu, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr.
19
Canys myfi, trwy ddeddf, bum farw i ddeddf, fel y byddwn byw i Dduw;
20
yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; ac nid myfi mwy sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a’m bywyd yr awron yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf mewn ffydd ym Mab Duw, a’m carodd i, ac a’i traddodes ei hun drosof fi.
21
Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os trwy ddeddf y mae cyfiawnder, yna bu Crist farw am ddim.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6