bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Chronicles 13
1 Chronicles 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 14 →
1
Dyma Dafydd yn gofyn am gyngor ei swyddogion milwrol (gan gynnwys capteiniaid yr unedau o fil ac o gant).
2
Dwedodd wrth y gynulleidfa gyfan, “Os mai dyna dych chi eisiau, ac os ydy'r ARGLWYDD ein Duw yn cytuno, gadewch i ni anfon at bawb ym mhob rhan o Israel, ac at yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu trefi, i'w gwahodd nhw ddod i ymuno gyda ni.
3
Gadewch i ni symud Arch ein Duw yn ôl yma. Wnaethon ni ddim gofyn am ei arweiniad o gwbl pan oedd Saul yn frenin.”
4
A dyma'r gynulleidfa'n cytuno. Roedd pawb yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud.
5
Felly dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd — o Afon Shichor yn yr Aifft i Lebo-chamath, er mwyn symud Arch Duw yno o Ciriath-iearim.
6
Dyma Dafydd a pobl Israel i gyd yn mynd i Baäla (sef Ciriath-iearim) yn Jwda, i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid.
7
Dyma nhw'n gosod yr Arch ar gert newydd, a'i symud hi o dŷ Abinadab, gydag Wssa ac Achïo yn arwain y cert.
8
Roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen Duw, a canu i gyfeiliant telynau a nablau, tambwrinau, symbalau ac utgyrn.
9
Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Cidon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law i afael yn yr Arch.
10
Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa, a dyma fe'n ei daro'n farw am estyn ei law a chyffwrdd yr Arch. Bu farw yn y fan a'r lle o flaen Duw.
11
Roedd Dafydd wedi digio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛y ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.
12
Roedd Duw wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch Duw ddod ata i?” meddai.
13
Felly wnaeth Dafydd ddim mynd â'r Arch adre i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath.
14
Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn y tŷ gyda teulu Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio teulu Obed-edom a popeth oedd ganddo.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29