bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Chronicles 24
1 Chronicles 24
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 25 →
1
Dyma sut cafodd disgynyddion Aaron eu rhannu'n grwpiau: Meibion Aaron: Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar.
2
(Buodd Nadab ac Abihw farw cyn eu tad, a doedd ganddyn nhw ddim plant. Roedd Eleasar ac Ithamar yn gwasanaethu fel offeiriaid.)
3
Dyma Dafydd, gyda help Sadoc (oedd yn ddisgynnydd i Eleasar), ac Achimelech (oedd yn ddisgynnydd i Ithamar), yn rhannu'r offeiriaid yn grwpiau oedd â chyfrifoldebau arbennig.
4
Roedd mwy o arweinwyr yn ddisgynyddion i Eleasar nag oedd i Ithamar, a dyma sut cawson nhw eu rhannu: un deg chwech arweinydd oedd yn ddisgynyddion i Eleasar, ac wyth oedd yn ddisgynyddion i Ithamar.
5
Er mwyn bod yn deg, cafodd coelbren ei ddefnyddio i'w rhannu nhw, fel bod pob un oedd yn gwasanaethu yn arweinwyr yn y cysegr wedi eu dewis gan Dduw.
6
Dyma'r ysgrifennydd, Shemaia fab Nethanel (oedd yn Lefiad) yn ysgrifennu'r enwau i gyd o flaen y brenin, ei swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Achimelech fab Abiathar, ac arweinwyr yr offeiriad a'r Lefiaid. Roedd un yn cael ei ddewis drwy ddefnyddio coelbren o deulu Eleasar, ac yna'r nesaf o deulu Ithamar.
7
[7-18] A dyma'r drefn fel cawson nhw eu dewis: 1. — Iehoiarif — 13. — Chwpa 2. — Idaïa — 14. — Ieshebëab 3. — Charîm — 15. — Bilga 4. — Seorîm — 16. — Immer 5. — Malcîa — 17. — Chesir 6. — Miamin — 18. — Hapitsets 7. — Hacots — 19. — Pethacheia 8. — Abeia — 20. — Iechescel 9. — Ieshŵa — 21. — Iachin 10. — Shechaneia — 22. — Gamwl 11. — Eliashif — 23. — Delaia 12. — Iacîm — 24. — Maaseia
19
A dyna'r drefn roedden nhw'n gwneud eu gwaith yn y deml, yn ôl y canllawiau roedd Aaron, eu hynafiad, wedi eu gosod, fel roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi dweud wrtho.
20
Dyma weddill y Lefiaid: Shwfa-el, o ddisgynyddion Amram; Iechdeia, o ddisgynyddion Shwfa-el;
21
Ishïa, mab hynaf Rechabeia, o ddisgynyddion Rechabeia.
22
Shlomoth o'r Its'hariaid; Iachath, o ddisgynyddion Shlomoth.
23
Disgynyddion Hebron: Ierïa yn arwain, yna Amareia, Iachsiel, ac Icameam.
24
Disgynyddion Wssiel: Micha, a Shamîr (un o feibion Micha).
25
Brawd Micha: Ishïa, a Sechareia (un o feibion Ishïa)
26
Disgynyddion Merari: Machli a Mwshi. Mab Iaäseia: Beno.
27
Disgynyddion Merari, o Iaäseia: Beno, Shoham, Saccwr ac Ifri.
28
O Machli: Eleasar, oedd heb feibion.
29
O Cish: Ierachmeël.
30
Disgynyddion Mwshi: Machli, Eder, a Ierimoth. (Y rhain oedd y Lefiaid, wedi eu rhestru yn ôl eu teuluoedd.)
31
Yn union fel gyda'i perthnasau yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, cafodd coelbren ei ddefnyddio o flaen y Brenin Dafydd, Sadoc, Achimelech, penaethiaid teuluoedd, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Doedd safle ac oedran ddim yn cael ei ystyried.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29