bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Chronicles 21
1 Chronicles 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 22 →
1
Dyma satan yn codi yn erbyn Israel, a gwneud i Dafydd gyfri faint o filwyr oedd gan Israel.
2
Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab ac arweinwyr ei fyddin, “Dw i eisiau i chi gyfri faint o filwyr sydd yn Israel, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Yna adrodd yn ôl i mi gael gwybod faint ohonyn nhw sydd.”
3
Ond dyma Joab yn ei ateb, “O na fyddai'r ARGLWYDD yn gwneud y fyddin ganwaith yn fwy! Ond fy mrenin, syr, ydyn nhw ddim i gyd yn gwasanaethu fy meistr? Pam wyt ti eisiau gwneud y fath beth? Pam gwneud Israel yn euog?”
4
Ond y brenin gafodd ei ffordd, a dyma Joab yn teithio drwy Israel i gyd, cyn dod yn ôl i Jerwsalem.
5
Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i Dafydd. Roedd yna un pwynt un miliwn o ddynion Israel allai ymladd yn y fyddin — pedwar cant saith deg mil yn Jwda yn unig.
6
Wnaeth Joab ddim cyfri llwythau Lefi a Benjamin, am ei fod yn anhapus iawn gyda gorchymyn y brenin.
7
Roedd y peth wedi digio Duw hefyd, felly dyma fe'n cosbi Israel.
8
Dyma Dafydd yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”
9
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gad, proffwyd Dafydd:
10
“Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’”
11
Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dewis un o'r rhain —
12
Tair blynedd o newyn, tri mis o gael eich erlid gan eich gelynion a'ch lladd mewn rhyfel, neu dri diwrnod o gael eich taro gan yr ARGLWYDD, pan fydd haint yn lledu trwy'r wlad ac angel yr ARGLWYDD yn lladd pobl drwy dir Israel i gyd.’ Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.”
13
Dyma Dafydd yn ateb Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”
14
Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon pla ar wlad Israel, a buodd saith deg mil o bobl farw.
15
Dyma Duw yn anfon angel i ddinistrio Jerwsalem. Ond wrth iddo wneud hynny, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed. Dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.)
16
Dyma Dafydd yn gweld angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng y ddaear a'r awyr a'r cleddyf yn ei law yn pwyntio at Jerwsalem. A dyma Dafydd a'r arweinwyr, oedd yn gwisgo sachliain, yn plygu a'u hwynebau ar lawr.
17
A dyma Dafydd yn gweddïo ar Dduw, “Onid fi wnaeth benderfynu cyfri'r milwyr? Fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg ofnadwy yma! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. O ARGLWYDD Dduw, cosba fi a'm teulu, a symud y pla oddi wrth dy bobl.”
18
Felly dyma angel yr ARGLWYDD yn anfon Gad i ddweud wrth Dafydd am fynd i godi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.
19
Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn i Gad ei ddweud ar ei ran.
20
Roedd Ornan wrthi'n dyrnu ŷd pan drodd a gweld yr angel, a dyma fe a'i bedwar mab yn mynd i guddio.
21
Yna dyma Ornan yn gweld Dafydd yn dod ato, a dyma fe'n dod allan o'r llawr dyrnu ac yn ymgrymu o flaen Dafydd â'i wyneb ar lawr.
22
A dyma Dafydd yn dweud wrth Ornan, “Dw i eisiau i ti werthu'r llawr dyrnu i mi, er mwyn i mi godi allor i'r ARGLWYDD — gwna i dalu'r pris llawn i ti — i stopio'r pla yma ladd y bobl.”
23
Dyma Ornan yn dweud wrth Dafydd, “Syr, cymer e, a gwneud beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu'n goed tân, a'r gwenith yn offrwm o rawn. Cymer y cwbl.”
24
Ond dyma'r brenin Dafydd yn ateb Ornan, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno dy eiddo di yn offrwm i'r ARGLWYDD, neu aberthau i'w llosgi sydd wedi costio dim byd i mi.”
25
Felly dyma Dafydd yn prynu'r lle gan Ornan am chwe chan darn aur.
26
Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ymateb drwy anfon tân i lawr o'r awyr a llosgi y aberth ar yr allor.
27
Dyma'r ARGLWYDD yn gorchymyn i'r angel gadw ei gleddyf.
28
Pan welodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ateb ei weddi ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad, dyma fe'n llosgi aberth yno.
29
Yr adeg honno, roedd Tabernacl yr ARGLWYDD, (yr un roedd Moses wedi ei hadeiladu yn yr anialwch) a'r allor i losgi aberthau arni, wrth yr allor leol yn Gibeon.
30
Ond doedd Dafydd ddim yn gallu mynd yno i ofyn am arweiniad Duw am fod arno ofn cleddyf angel yr ARGLWYDD.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29