bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Chronicles 23
1 Chronicles 23
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 24 →
1
Pan oedd Dafydd wedi mynd yn hen ac yn dod i ddiwedd ei oes, dyma fe'n gwneud ei fab Solomon yn frenin ar Israel.
2
Yna dyma fe'n galw holl arweinwyr Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd.
3
Cafodd y Lefiaid oedd yn dri deg oed neu'n hŷn eu cyfrif, ac roedd yna 38,000 ohonyn nhw.
4
A dyma Dafydd yn dweud, “Mae 24,000 i fod i arolygu gwaith Teml yr ARGLWYDD; 6,000 i fod yn swyddogion ac yn farnwyr;
5
4,000 i fod yn ofalwyr yn gwylio'r giatiau; a 4,000 i arwain y mawl i'r ARGLWYDD gyda'r offerynnau cerdd dw i wedi eu darparu ar gyfer yr addoliad.”
6
A dyma Dafydd yn eu rhannu nhw'n grwpiau wedi eu henwi ar ôl meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari.
7
Dau fab Gershon oedd Ladan a Shimei.
8
Meibion Ladan: Iechiel yr hynaf, Setham, a Joel — tri.
9
Meibion Shimei: Shlomith, Chasiel, a Haran — tri. Nhw oedd arweinwyr teulu Ladan.
10
Meibion Shimei: Iachath, Sina, Iewsh, a Bereia. Dyma feibion Shimei — pedwar.
11
Iachath oedd yr hynaf, wedyn Sisa. Doedd gan Iewsh a Bereia ddim llawer o feibion, felly roedden nhw'n cael eu cyfrif fel un teulu.
12
Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel — pedwar.
13
Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i ddisgynyddion eu dewis i fod bob amser yn gyfrifol am yr offer cysegredig, i offrymu aberthau o flaen yr ARGLWYDD, ei wasanaethu a'i addoli.
14
Roedd meibion Moses, dyn Duw, yn cael eu cyfrif yn rhan o lwyth Lefi.
15
Meibion Moses: Gershom ac Elieser
16
Disgynyddion Gershom: Shefwel oedd yr hynaf.
17
Disgynyddion Elieser: Rechafia oedd yr hynaf. (Doedd gan Elieser ddim mwy o feibion, ond cafodd Rechafia lot fawr o feibion).
18
Meibion Its'har: Shlomith oedd yr hynaf.
19
Meibion Hebron: Ierïa oedd yr hynaf, Amareia yn ail, Iachsiel yn drydydd, ac Icameam yn bedwerydd.
20
Meibion Wssiel: Micha oedd yr hynaf, ac Ishïa yn ail.
21
Meibion Merari: Machli a Mwshi. Meibion Machli: Eleasar a Cish.
22
(Bu Eleasar farw heb gael meibion, dim ond merched. A dyma eu cefndryd, meibion Cish, yn eu priodi nhw)
23
Meibion Mwshi: Machli, Eder, ac Ieremoth — tri.
24
Dyma ddisgynyddion Lefi yn ôl eu claniau — pob un wedi cael ei restru wrth ei enw o dan enw ei benteulu. Roedd pob un oedd dros ddau ddeg mlwydd oed i wasanaethu yr ARGLWYDD yn y deml.
25
Roedd Dafydd wedi dweud fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi heddwch i'w bobl, ac wedi dod i aros yn Jerwsalem am byth.
26
Felly, bellach, doedd dim rhaid i'r Lefiaid gario'r tabernacl a'r holl offer ar ei chyfer.
27
Y peth olaf roedd Dafydd wedi ei ddweud oedd fod rhaid rhifo'r Lefiaid oedd yn dau ddeg mlwydd oed neu'n hŷn.
28
Gwaith y Lefiaid oedd helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Nhw oedd yn gofalu am yr iard a'r stordai, am olchi'r llestri cysegredig ac unrhyw beth arall oedd angen ei wneud yn nheml Dduw.
29
Nhw oedd yn gyfrifol am y bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob dydd, y blawd mân ar gyfer yr offrwm o rawn, y bisgedi tenau, y cacennau radell, a'r holl gymysgu a'r pwyso a'r mesur.
30
Roedden nhw i fod yn bresennol bob bore i ddiolch i'r ARGLWYDD a chanu mawl iddo. Hefyd bob gyda'r nos,
31
a pan oedd aberth yn cael ei losgi ar y Saboth, yn fisol ar Ŵyl y lleuad newydd, ac ar y gwyliau crefyddol eraill. Roedd yn rhaid i'r nifer cywir ohonyn nhw fod yn bresennol bob tro.
32
Nhw hefyd oedd yn gyfrifol am Babell Presenoldeb Duw a'r cysegr sanctaidd. Roedden nhw'n helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29