bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Chronicles 15
1 Chronicles 15
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 16 →
1
Dyma Dafydd yn codi nifer o adeiladau yn Ninas Dafydd. A dyma fe'n paratoi lle i Arch Duw, a gosod pabell yn barod iddi.
2
Yna dyma Dafydd yn dweud, “Dim ond y Lefiaid sydd i gario Arch Duw, neb arall. Nhw mae'r ARGLWYDD wedi eu dewis i gario'r Arch ac i'w wasanaethu am byth.”
3
Dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem, i symud Arch yr ARGLWYDD i'r lle'r roedd wedi ei baratoi ar ei chyfer.
4
Dyma fe'n galw disgynyddion Aaron a'r Lefiaid at ei gilydd hefyd:
5
Disgynyddion Cohath: Wriel, yr arweinydd, a 120 o'i berthnasau.
6
Disgynyddion Merari: Asaia, yr arweinydd, a 220 o'i berthnasau.
7
Disgynyddion Gershom: Joel, yr arweinydd, a 130 o'i berthnasau.
8
Disgynyddion Elitsaffan: Shemaia, yr arweinydd, a 200 o'i berthnasau.
9
Disgynyddion Hebron: Eliel, yr arweinydd, ac 80 o'i berthnasau.
10
Disgynyddion Wssiel: Aminadab, yr arweinydd, a 112 o'i berthnasau.
11
Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriaid, Sadoc ac Abiathar, a'r Lefiaid, Wriel, Asaia, Joel, Shemaia, Eliel ac Aminadab.
12
A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Chi ydy arweinwyr y Lefiaid. Rhaid i chi a'ch perthnasau fynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'r lle dw i wedi ei baratoi iddi.
13
Roedd yr ARGLWYDD wedi'n cosbi ni y tro cyntaf am eich bod chi ddim gyda ni, a'n bod heb ofyn iddo am y ffordd iawn i'w symud.”
14
Felly dyma'r offeiriad a'r Lefiaid yn cysegru eu hunain i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel.
15
A dyma'r Lefiaid yn cario Arch Duw ar eu hysgwyddau gyda pholion, am fod Moses wedi dweud mai dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn.
16
Yna dyma Dafydd yn dweud wrth arweinwyr y Lefiad i ddewis rhai o'u perthnasau oedd yn gerddorion i ganu offerynnau cerdd, nablau, telynau a symbalau, ac i ganu'n llawen.
17
Felly dyma'r Lefiaid yn penodi Heman fab Joel; un o'i berthnasau, Asaff fab Berecheia; ac un o ddisgynyddion Merari, Ethan fab Cwshaia.
18
Yna cafodd rhai o'u perthnasau eu dewis i'w helpu: Sechareia, Iaäsiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffelehw, Micneia ac Obed-Edom a Jeiel oedd yn gwylio'r giatiau.
19
Roedd y cerddorion Heman, Asaff ac Ethan i seinio'r symbalau pres;
20
Sechareia, Asiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Maaseia, a Benaia i ganu telynau bach;
21
Matitheia, Eliffelehw, Micneia, Obed-Edom, Jeiel ac Asaseia i ganu'r telynau mawr, gydag arweinydd yn eu harwain.
22
Cenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd arweinydd y côr, am fod ganddo brofiad yn y maes;
23
wedyn Berecheia ac Elcana yn gofalu am yr Arch,
24
a'r offeiriaid Shefaneia, Ioshaffat, Nethanel, Amasai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yn canu'r utgyrn o flaen yr Arch. Roedd Obed-Edom a Iecheia hefyd yn gwylio'r Arch.
25
Felly dyma Dafydd, ac arweinwyr Israel, a chapteiniaid yr unedau o fil, yn mynd i dŷ Obed-Edom i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i Jerwsalem, gyda dathlu mawr.
26
Am fod Duw yn helpu'r Lefiaid i gario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, dyma nhw'n aberthu saith tarw ifanc a saith hwrdd.
27
Roedd Dafydd a'r Lefiaid oedd yn cario'r arch, y cerddorion, a Cenaneia, arweinydd y côr, mewn gwisgoedd o liain main. Roedd Dafydd yn gwisgo effod hefyd, sef crys offeiriad.
28
Felly dyma Israel gyfan yn hebrwng Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD gan weiddi, a chanu'r corn hwrdd ac utgyrn, symbalau, nablau a thelynau.
29
Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal merch Saul yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin Dafydd yn neidio a dawnsio, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29