bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Chronicles 16
1 Chronicles 16
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 17 →
1
Dyma nhw'n dod ag Arch Duw a'i gosod yn y babell roedd Dafydd wedi chodi iddi. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith Duw.
2
Ar ôl cyflwyno'r offrymau yma, dyma Dafydd yn bendithio'r bobl yn enw yr ARGLWYDD.
3
Yna dyma fe'n rhannu bwyd i bawb yn Israel — dynion a merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen datys a teisen rhesin.
4
Yna dyma fe'n penodi rhai o'r Lefiaid i arwain yr addoliad o flaen Arch yr ARGLWYDD, i ailadrodd yr hanes wrth ganu a moli'r ARGLWYDD, Duw Israel.
5
Asaff oedd y pennaeth, a Sechareia yn ei helpu. Roedd Jeiel, Shemiramoth, Iechiel, Matitheia, Eliab, Benaia, Obed-Edom, a Jeiel yn canu nablau a thelynau gwahanol, ac Asaff yn taro'r symbalau;
6
a'r offeiriaid, Benaia a Iachsiel yn canu utgyrn yn rheolaidd o flaen Arch Ymrwymiad Duw.
7
Ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Dafydd, i Asaff a'i gyfeillion, y gân hon o ddiolch:
8
Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud.
9
Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli! Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
10
Broliwch ei enw sanctaidd! Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.
11
Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth; ceisiwch ei gwmni bob amser.
12
Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth — ei wyrthiau, a'r cwbl y gwnaeth ei farnu!
13
Ie, chi blant ei was Israel; plant Jacob mae wedi eu dewis.
14
Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e; yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.
15
Cofiwch ei ymrwymiad bob amser, a'i addewid am fil o genedlaethau —
16
yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham, a'r addewid wnaeth e ar lw i Isaac.
17
Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob — ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!
18
“Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai, “yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”
19
Dim ond criw bach ohonoch chi oedd — rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,
20
ac yn crwydro o un wlad i'r llall, ac o un deyrnas i'r llall.
21
Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw; roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:
22
“Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i; peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”
23
Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD! a dweud bob dydd sut mae e'n achub.
24
Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
25
Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli! Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.
26
Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd!
27
Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg; mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb.
28
Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
29
Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch o'i flaen i gyflwyno rhodd iddo! Plygwch i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr!
30
Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd! Mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.
31
Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen! Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”
32
Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi! Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!
33
Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod e'n dod — mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!
34
Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
35
Dwedwch, “Achub ni, O Dduw yr achubwr! Casgla ni ac achub ni o blith y cenhedloedd! Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd, ac yn brolio'r cwbl wyt ti wedi ei wneud.”
36
Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! A dyma'r bobl i gyd yn dweud, “Amen! Haleliwia!”
37
Dyma Dafydd yn penodi Asaff a'i frodyr i arwain yr addoliad o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i wneud popeth oedd angen ei wneud bob dydd.
38
Gyda nhw roedd Obed-Edom a'i chwe deg wyth o frodyr. Obed-edom, mab Iedwthwn, a Chosa oedd yn gofalu am y giatiau.
39
(Roedd wedi gadael Sadoc yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, i wasanaethu o flaen tabernacl yr ARGLWYDD wrth yr allor leol yn Gibeon.
40
Roedden nhw i losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr aberthau. Roedden nhw i wneud hyn bob bore a gyda'r nos fel mae'n dweud yn y gyfraith oedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Israel.)
41
Yno gyda nhw roedd Heman, Iedwthwn ac eraill. Roedd y rhain wedi eu dewis wrth eu henwau i ddiolch i'r ARGLWYDD (Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!)
42
Heman a Iedwthwn oedd yn gofalu am yr utgyrn a'r symbalau a'r offerynnau cerdd eraill oedd yn cael eu defnyddio i foli Duw. A meibion Iedwthwn oedd yn gwarchod y fynedfa.
43
Yna dyma'r bobl i gyd yn mynd adre, ac aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29