bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Psalms 119
Psalms 119
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 118
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 120 →
1
Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
2
Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a'i ceisiant ef â'u holl galon.
3
Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
4
Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal.
5
O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!
6
Yna ni'm gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.
7
Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
8
Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.
9
Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
10
A'm holl galon y'th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.
11
Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.
12
Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.
13
A'm gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.
14
Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â'r holl olud.
15
Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
16
Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.
17
Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
18
Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di.
19
Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.
20
Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnedigaethau bob amser.
21
Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.
22
Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.
23
Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i'm herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.
24
A'th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghorwyr.
25
Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.
26
Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.
27
Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
28
Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.
29
Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
30
Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.
31
Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na'm gwaradwydda.
32
Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.
33
Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.
34
Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â'm holl galon.
35
Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
36
Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra.
37
Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.
38
Sicrha dy air i'th was, yr hwn sydd yn ymroddi i'th ofn di.
39
Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
40
Wele, awyddus ydwyf i'th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
41
Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy air.
42
Yna yr atebaf i'm cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.
43
Na ddwg dithau air y gwirionedd o'm genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
44
A'th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.
45
Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.
46
Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.
47
Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.
48
A'm dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
49
Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
50
Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a'm bywhaodd i.
51
Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
52
Cofiais, O ARGLWYDD, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
53
Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
54
Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.
55
Cofiais dy enw, ARGLWYDD, y nos; a chedwais dy gyfraith.
56
Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.
57
O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.
58
Ymbiliais â'th wyneb â'm holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.
59
Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
60
Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion.
61
Minteioedd yr annuwiolion a'm hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.
62
Hanner nos y cyfodaf i'th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.
63
Cyfaill ydwyf fi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchmynion.
64
Llawn yw y ddaear o'th drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau.
65
Gwnaethost yn dda â'th was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
66
Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.
67
Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
68
Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.
69
Y beilchion a glytiasant gelwydd i'm herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â'm holl galon.
70
Cyn frased â'r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
71
Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.
72
Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.
73
Dy ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.
74
Y rhai a'th ofnant a'm gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.
75
Gwn, ARGLWYDD, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y'm cystuddiaist.
76
Bydded, atolwg, dy drugaredd i'm cysuro, yn ôl dy air i'th wasanaethwr.
77
Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
78
Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.
79
Troer ataf fi y rhai a'th ofnant di, a'r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
80
Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na'm cywilyddier.
81
Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.
82
Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y'm diddeni?
83
Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.
84
Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?
85
Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
86
Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y'm herlidiasant; cymorth fi.
87
Braidd na'm difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion.
88
Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
89
Yn dragywydd, O ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.
90
Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.
91
Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.
92
Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.
93
Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y'm bywheaist.
94
Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.
95
Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.
96
Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.
97
Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
98
A'th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na'm gelynion: canys byth y maent gyda mi.
99
Deellais fwy na'm holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
100
Deellais yn well na'r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.
101
Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
102
Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a'm dysgaist.
103
Mor felys yw dy eiriau i'm genau! melysach na mêl i'm safn.
104
Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.
105
Llusern yw dy air i'm traed, a llewyrch i'm llwybr.
106
Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
107
Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
108
Atolwg, ARGLWYDD, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.
109
Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110
Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.
111
Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
112
Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.
113
Meddyliau ofer a gaseais: a'th gyfraith di a hoffais.
114
Fy lloches a'm tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.
115
Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy NUW.
116
Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.
117
Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.
118
Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.
119
Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.
120
Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.
121
Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i'm gorthrymwyr.
122
Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i'r beilchion fy ngorthrymu.
123
Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.
124
Gwna i'th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.
125
Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau.
126
Amser yw i'r ARGLWYDD weithio: diddymasant dy gyfraith di.
127
Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.
128
Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.
129
Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.
130
Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.
131
Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i'th orchmynion di.
132
Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy enw.
133
Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
134
Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.
135
Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.
136
Afonydd o ddyfroedd a redant o'm llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.
137
Cyfiawn ydwyt ti, O ARGLWYDD, ac uniawn yw dy farnedigaethau.
138
Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.
139
Fy sêl a'm difaodd; oherwydd i'm gelynion anghofio dy eiriau di.
140
Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.
141
Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.
142
Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a'th gyfraith sydd wirionedd.
143
Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant; a'th orchmynion oedd fy nigrifwch.
144
Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
145
Llefais â'm holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf.
146
Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.
147
Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais.
148
Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.
149
Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
150
Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.
151
Tithau, ARGLWYDD, wyt agos; a'th holl orchmynion sydd wirionedd.
152
Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.
153
Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.
154
Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.
155
Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
156
Dy drugareddau, ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
157
Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
158
Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.
159
Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd.
160
Gwirionedd o'r dechreuad yw dy air; a phob un o'th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.
161
Tywysogion a'm herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.
162
Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.
163
Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a'th gyfraith di a hoffais.
164
Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
165
Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.
166
Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion.
167
Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.
168
Cedwais dy orchmynion a'th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.
169
Nesaed fy ngwaedd o'th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.
170
Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.
171
Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.
172
Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.
173
Bydded dy law i'm cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.
174
Hiraethais, O ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a'th gyfraith yw fy hyfrydwch.
175
Bydded byw fy enaid, fel y'th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.
176
Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.
← Chapter 118
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 120 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150