bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Psalms 89
Psalms 89
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 88
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 90 →
1
Maschil Ethan yr Esrahiad. [1] Trugareddau yr ARGLWYDD a ddatganaf byth: â'm genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth.
2
Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.
3
Gwneuthum amod â'm hetholedig, tyngais i'm gwas Dafydd.
4
Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
5
A'r nefoedd, O ARGLWYDD, a foliannant dy ryfeddod; a'th wirionedd yng nghynulleidfa y saint.
6
Canys pwy yn y nef a gystedlir â'r ARGLWYDD? pwy a gyffelybir i'r ARGLWYDD ymysg meibion y cedyrn?
7
DUW sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i'w arswydo yn ei holl amgylchoedd.
8
O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Iôr? a'th wirionedd o'th amgylch?
9
Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a'u gostegi.
10
Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion.
11
Y nefoedd ydynt eiddot ti, a'r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a'i gyflawnder.
12
Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.
13
Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.
14
Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.
15
Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O ARGLWYDD, y rhodiant hwy.
16
Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.
17
Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.
18
Canys yr ARGLWYDD yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.
19
Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o'r bobl.
20
Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â'm holew sanctaidd:
21
Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a'm braich a'i nertha ef.
22
Ni orthryma y gelyn ef; a'r mab anwir nis cystuddia ef.
23
Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen; a'i gaseion a drawaf.
24
Fy ngwirionedd hefyd a'm trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.
25
A gosodaf ei law yn y môr, a'i ddeheulaw yn yr afonydd.
26
Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy NUW, a Chraig fy iachawdwriaeth.
27
Minnau a'i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.
28
Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a'm cyfamod fydd sicr iddo.
29
Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a'i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd.
30
Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau;
31
Os fy neddfau a halogant, a'm gorchmynion ni chadwant:
32
Yna mi a ymwelaf â'u camwedd â gwialen, ac â'u hanwiredd â ffrewyllau.
33
Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o'm gwirionedd.
34
Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.
35
Tyngais unwaith i'm sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd.
36
Bydd ei had ef yn dragywydd, a'i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.
37
Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.
38
Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.
39
Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.
40
Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.
41
Yr holl fforddolion a'i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i'w gymdogion.
42
Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.
43
Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.
44
Peraist i'w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr.
45
Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.
46
Pa hyd, ARGLWYDD, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?
47
Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?
48
Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.
49
Pa le y mae dy hen drugareddau, O ARGLWYDD, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?
50
Cofia, O ARGLWYDD, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;
51
A'r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O ARGLWYDD; â'r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.
52
Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD yn dragywydd. Amen, ac Amen.
← Chapter 88
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 90 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150