bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Psalms 18
Psalms 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 19 →
1
I'r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd, [1] Caraf di, ARGLWYDD fy nghadernid.
2
Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a'm hamddiffynfa, a'm gwaredydd; fy NUW, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a'm huchel dŵr.
3
Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y'm cedwir rhag fy ngelynion.
4
Gofidion angau a'm cylchynasant, ac afonydd y fall a'm dychrynasant i.
5
Gofidiau uffern a'm cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.
6
Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW: efe a glybu fy llef o'i deml, a'm gwaedd ger ei fron a ddaeth i'w glustiau ef.
7
Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.
8
Dyrchafodd mwg o'i ffroenau, a thân a ysodd o'i enau: glo a enynasant ganddo.
9
Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
10
Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.
11
Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a'i babell o'i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
12
Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymylau a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd.
13
Yr ARGLWYDD hefyd a daranodd yn y nefoedd, a'r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd.
14
Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a'u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a'u gorchfygodd hwynt.
15
Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chan chwythad anadl dy ffroenau.
16
Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.
17
Efe a'm gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.
18
Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.
19
Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.
20
Yr ARGLWYDD a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
21
Canys cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW.
22
Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a'i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf.
23
Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
24
A'r ARGLWYDD a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.
25
A'r trugarog y gwnei drugaredd; â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
26
A'r glân y gwnei lendid; ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.
27
Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.
28
Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr ARGLWYDD fy NUW a lewyrcha fy nhywyllwch.
29
Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy NUW y llemais dros fur.
30
DUW sydd berffaith ei ffordd: gair yr ARGLWYDD sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
31
Canys pwy sydd DDUW heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig ond ein DUW ni?
32
DUW sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
33
Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y'm sefydla.
34
Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.
35
Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a'th ddeheulaw a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.
36
Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.
37
Erlidiais fy ngelynion, ac a'u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
38
Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.
39
Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.
40
Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
41
Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd: sef ar yr ARGLWYDD, ond nid atebodd efe hwynt.
42
Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.
43
Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.
44
Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi.
45
Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o'u dirgel fannau.
46
Byw yw yr ARGLWYDD, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer DUW fy iachawdwriaeth.
47
DUW sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf.
48
Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a'm dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.
49
Am hynny y moliannaf di, O ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.
50
Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i'w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i'w eneiniog, i Dafydd, ac i'w had ef byth.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150