bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Psalms 78
Psalms 78
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 77
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 79 →
1
Maschil i Asaff. [1] Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.
2
Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o'r cynfyd:
3
Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni.
4
Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a'i nerth, a'i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
5
Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant:
6
Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i'w plant hwythau:
7
Fel y gosodent eu gobaith ar DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef:
8
Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW.
9
Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.
10
Ni chadwasant gyfamod DUW, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;
11
Ac anghofiasant ei weithredoedd a'i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
12
Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.
13
Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pentwr.
14
Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.
15
Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
16
Canys efe a ddug ffrydiau allan o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17
Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.
18
A themtiasant DDUW yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.
19
Llefarasant hefyd yn erbyn DUW; dywedasant, A ddichon DUW arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20
Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i'w bobl?
21
Am hynny y clybu yr ARGLWYDD, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;
22
Am na chredent yn NUW, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:
23
Er iddo ef orchymyn i'r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,
24
A glawio manna arnynt i'w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
25
Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
26
Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.
27
Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.
28
Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.
29
Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;
30
Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
31
Dicllonedd DUW a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.
32
Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i'w ryfeddodau ef.
33
Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'u blynyddoedd mewn dychryn.
34
Pan laddai efe hwynt, hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient DDUW yn fore.
35
Cofient hefyd mai DUW oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf DDUW oedd eu Gwaredydd.
36
Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â'u genau, a dywedyd celwydd wrtho â'u tafod:
37
A'u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na'u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.
38
Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
39
Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40
Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?
41
Ie, troesant a phrofasant DDUW, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
42
Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43
Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a'i ryfeddodau ym maes Soan:
44
Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a'u ffrydiau, fel na allent yfed.
45
Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a'u difaodd hwynt; a llyffaint i'w difetha.
46
Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i'r lindys, a'u llafur i'r locust.
47
Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â rhew.
48
Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i'r cenllysg, a'u golud i'r mellt.
49
Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.
50
Cymhwysodd ffordd i'w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i'r haint.
51
Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:
52
Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a'u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
53
Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a'r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.
54
Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i'r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.
55
Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o'u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56
Er hynny temtiasant a digiasant DDUW Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
57
Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.
58
Digiasant ef hefyd â'u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â'u cerfiedig ddelwau.
59
Clybu DUW hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
60
Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;
61
Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a'i brydferthwch yn llaw y gelyn.
62
Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
63
Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a'u morynion ni phriodwyd.
64
Eu hoffeiriaid a laddwyd â'r cleddyf; a'u gwragedd gweddwon nid wylasant.
65
Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.
66
Ac efe a drawodd ei elynion o'r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.
67
Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:
68
Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.
69
Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
70
Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a'i cymerth o gorlannau y defaid:
71
Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
72
Yntau a'u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a'u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
← Chapter 77
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 79 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150