bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Timothy 1
1 Timothy 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul, Apostol Crist Iesu yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a Iesu Grist, ein gobaith,
2
at Timotheus, fy mhlentyn gwirioneddol mewn ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Harglwydd.
3
Fel y deisyfais arnat aros yn Ephesus, pan oeddwn ar y ffordd i Macedonia, fel y gorchymynech i rai beidio dysgu yn wahanol,
4
na thalu sylw i chwedlau ac achau diderfyn, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach na goruchwyliaeth Duw, yr hon sydd mewn ffydd; felly y gwnaf yn awr.
5
Eithr amcan y gorchymyn yw cariad o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiragrith:
6
yn yr hyn bethau y methodd rhai, ac a droisant ymaith at ofer‐siarad;
7
gan ewyllysio bod yn ddysgawdwyr y Gyfraith, heb ddeall y pethau a ddywedant, nac am ba bethau yr haerant.
8
Eithr gwyddom ni mai da yw y Gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlawn,
9
gan wybod hyn, nad i ddyn cyfiawn y gosodir cyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac afreolus, i'r annuwiol a phechaduriaid, i'r disanctaidd ac annghrefyddol, i dad‐leiddiaid a mam-leiddiaid, i lofruddwyr dynion,
10
i butteinwyr, i wrryw-gydwyr, i ladron‐dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac od oes dim arall yn groes i'r Athrawiaeth iachus,
11
yn ol efengyl gogoniant y Gwynfydedig Dduw, yr hon a ymddiriedwyd i mi.
12
Yr wyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlawn, gan fy ngosod yn y weinidogaeth;
13
a mi gynt yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus; eithr mi a gefais drugaredd, gan yn anwybodus y gweithredais mewn annghrediniaeth;
14
a thra‐amlhaodd gras ein Harglwydd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu.
15
Ffyddlawn yw yr ymadrodd, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i achub pechaduriaid, o ba rai y pennaf ydwyf fi.
16
Eithr o achos hyn mi a gefais drugaredd, fel ynof fi, y pennaf, yr arddangosai Iesu Grist ei holl hir‐ymaros, fel siampl o'r rhai ydynt ar gredu ynddo ef i fywyd tragywyddol.
17
Ac i'r Brenin Tragywyddol, Anfarwol, Anweledig, yr Unig Dduw, y bydd anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
18
Y gorchymyn hwn yr wyf yn ei ymddiried i ti, fy mhlentyn Timotheus, yn ol y prophwydoliaethau a rag‐arweiniasant attat ti, ar filwrio o honot ynddynt y filwriaeth dda,
19
gan feddiannu ffydd a chydwybod dda, yr hon, rhai, wedi ei thalflu dros y bwrdd, a wnaethant long‐ddrylliad am y ffydd;
20
o'r rhai y mae Hymenëus ac Alexander, y rhai a draddodais i Satan, fel y dysger hwynt i beidio a chablu.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6