bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Timothy 4
1 Timothy 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Ond y mae yr Yspryd yn dywedyd yn bendant, yr ymedy rhai mewn amseroedd diweddarach oddiwrth y ffydd, gan roddi coel i ysprydion cyfeiliornus ac athrawiaethau cythreuliaid,
2
trwy ragrith celwyddwyr, a'u cydwybod eu hunain wedi ei serio, megys â haiarn poeth;
3
yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd y rhai a greodd Duw i'w derbyn gyda diolchgarwch gan y rhai sydd yn credu ac yn llawn‐wybod y gwirionedd.
4
Oblegyd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i'w wrthod, os derbynnir gyda diolchgarwch;
5
oblegyd sancteiddir ef trwy Air Duw a gweddi.
6
Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi yn weinidog da i Grist Iesu, gan gael dy feithrin yng ngeiriau y ffydd a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dylyn.
7
Ond gwrthod chwedlau halogedig a hen‐wreigaidd, eithr ymarfer dy hun i dduwioldeb;
8
canys y mae ymarfer corphorol yn fuddiol i ychydig raddau, ond y mae duwioldeb yn fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yn awr, ac o'r hwn sydd ar ddyfod:
9
ffyddlawn yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad.
10
Canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymdrechwn, canys yr ydym wedi gosod ein gobaith ar y Duw byw, yr hwn yw Iachawdwr pob dyn, yn enwedig y rhai sydd yn credu.
11
Y pethau hyn gorchymyn a dysg.
12
Na ddiystyred neb dy ieuengctyd di, eithr bydd yn esiampl i'r rhai sydd yn credu, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad,, mewn ffydd, mewn purdeb.
13
Hyd oni ddelwyf tal sylw i ddarllen, i gynghori, i athrawiaethu.
14
Nac esgeulusa y dawn sydd ynot, yr hwn a roddwyd i ti trwy brophwydoliaeth, gydag arddodiad dwylaw yr Henaduriaeth.
15
Bydd ddyfal yn y pethau hyn, aros ynddynt, fel y byddo dy gynnydd yn amlwg i bawb.
16
Gwylia arnat dy hun, ac ar dy ddysgeidiaeth; aros ynddynt, canys wrth wneuthur hyn, ti a achubi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6